pa fath o gwmni ydym ni ?
Wel, fe ofynnon ni i bawb yn y swyddfa a dyma ni:Hoffi
• Siarad plaen
• Syniadau da
• Ffocws
• Gweithio'n galed
• Yr hyder i wneud pethau arloesol
• Dyfalbarhad
• Llwyddiant
Casáu
• 'Spin'
• Petruster
• Colli cyfle
• Anghwrteisi
• Amhroffesiynoldeb
• Diflastod
• Methiant
Fe ddechreuon ni fel cwmni teuluol, a hoffwn feddwl ein bod yn trin ein staff fel aelodau o'n teulu estynedig. Felly rydym yn gweithio mewn tîm cymaint â phosib, rydym yn osgoi strwythur hierarchaidd, rydym yn rhoi'r hyder i'n staff fentro gyda syniadau newydd ac yn eu cefnogi wrth ddatblygu eu gyrfa.
Rydym yn mwynhau cyd—weithio — gyda'n cleientiaid wrth gwrs — ond hefyd gyda'r cyfryngau, yr asiantaethau hysbysebu, y dylunwyr graffeg, y darparwyr gwasanaethau clyweled, a'r holl lawryddion eraill sy'n gweithio gyda ni. Cyfathrebwyr ydym ni wedi'r cyfan, felly gwneud cysylltiadau newydd a chyfarfod â phobl newydd ydi un o'n hoff bethau ni!
Os ydych yn meddwl mai Cambrensis yw'r lle i chi, yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
|