cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Sba moethus yn agor ei ddrysau yn Sir Ddinbych

Dros y penwythnos, agorwyd St Dyfnog Springs, sba moethus newydd yn Llanrhaeadr, Sir Ddinbych yng nghwmni dros 200 o bobl gan gynnwys sêr lleol o fyd teledu a radio.

Yn ystod y seremoni diolchodd y perchennog Emma Jones, sy’n wreiddiol o bentref Llanrhaeadr, i’r unigolion hynny a wireddodd ‘breuddwyd oes’ gan gynnwys Alwyn Rowlands o gwmni pensaernïaeth Creu o Ddinbych, a chwmni adeiladu Anwyl.

Bu iddi hefyd gydnabod cefnogaeth Cadw, a gynigodd cyngor ar adnewyddu’r adeilad rhestredig a Croeso Cymru, adain twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyfrannodd grant o £200,000 tuag at gost y prosiect.

Mae’r sba yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf, gan gynnwys pwll hydrotherapi, sawna, ystafell stêm a ffynnon rhew, gym, stiwdio trin gwallt, cawod St Tropez a chwech o ystafelloedd harddwch. Mae sba St Dyfnog hefyd wedi cydweithio gyda Leonardo’s, deli a chwmni arlwyo o Rhuthun, er mwyn agor bistro sy’n gweini prydau ysgafn a diodydd tu mewn a thu allan.

‘Mae wedi bod yn siwrne hir, ond o’r diwedd dyma ni ac mi rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad’

Meddai Emma Jones.

‘Roeddwn eisiau creu hafan o dangnefedd ble y byddai’n bosib i bobl ddod i ymlacio neu i ymarfer corff yn harddwch Sir Ddinbych. Gyda llawer o ddyfalbarhad, dyna’r ydym wedi ei gyflawni yma.’

Daeth negeseuon o gefnogaeth gan yr actor Rhys Ifans, sy’n wreiddiol o Rhuthun a Phrif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Dywedodd y Gweinidog dros Dwristiaeth a Threftadaeth, Rhodri Glyn Thomas

‘Mae gan berchennog y busnes weledigaeth glir am y dyfodol ac mae eisoes wedi profi ei hun yn entrepreneur llwyddiannus. Mae ei harbenigedd a’i ymwybyddiaeth o sut i farchnata lle fel hyn yn si?r o wneud y busnes yma’n un llwyddiannus, gan gyfrannu at yr economi leol.’

*
Sba moethus yn agor ei ddrysau yn Sir Ddinbych
*