 |
cyfuno celf â busnes
Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded neu yrru heibio Sgwâr Callaghan yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos diwethaf wedi sylwi ar ychwanegiad newydd.
Mae'r artistiaid o Abertawe, Amber Hiscott a David Pearl, newydd gwblhau gosod eu hail fersiwn o'r Tyrau Dŵr, sy'n cynnwys strwythur alwminiwm glasem newydd ei gynllunio, ac wedi ei dorri gyda laser i ffurf sy'n ymdebygu i ewyn dŵr yn tasgu, ac yn gweddu'n union i leoliad sy'n seiliedig ar ffynnon.
Y gwaith beiddgar hwn yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o gyd—weithio llwyddiannus rhwng CBAT yr Asiantaeth Celf ac Adfywiad gyda sefydliadau preifat a chyhoeddus ac artistiaid. Nod Vinci plc, y cleientiaid ar gyfer y prosiect penodol hwn, oedd darparu olynydd cymwys i'r tyrau gwreiddiol, a gollwyd o ganlyniad i fandaliaeth gyson. Comisiynwyd Hiscott a Pearl i ddarparu olynydd i'w cynllun gwydr gwreiddiol gan ddefnyddio deunydd newydd. Mae'r tyrau newydd wedi eu creu gyda thaflenni o aliminiwm sydd wedi ei siapio a'i dorri mewn modd sy'n gadael i olau dreiddio i mewn i'r tyrau yn ystod y dydd ac i dreiddio allan ohonynt liw nos, yn debyg i lusern.
Mae pwysigrwydd rôl celf a busnes da bellach yn cael ei gydnabod fwyfwy ac mae cynllun llwyddiannus 'Celf yn y Swyddfa' CBAT wedi ennill nifer o wobrau Celf & Busnes, yn enwedig ei waith blaengar gyda chwmni cyfrifeg Grant Thornton UK LLP a Chyfreithwyr Hugh James.
Ymgymerodd cwmni cyfrifeg Grant Thornton UK LLP â phrosiect sylweddol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda CBAT yr Asiantaeth Celf ac Adfywiad a Arts & Business Cymru, er mwyn harnesu gallu creadigol ei staff gydag ymarferiad cydweithiol â'r artist Peter Bobby, gan ddod â chelf yn seiliedig ar frand y cwmni o 'Bersbectif Unigol' i'r gweithle. Datblygodd yr artist y cynllun un cam ymhellach trwy gynnal cyfres o weithdai ffotograffiaeth gyda'r staff i greu eu delweddau eu hunain yn seiliedig ar frand y cwmni.
Hyd yma, mae mwy na 400 delwedd wedi cael eu creu gan staff Grant Thornton yng Nghaerdydd a bydd ystod o ddelweddau yn cael eu harddangos yn barhaol yng nghanolfan y cwmni yng Nghaerdydd. Mae'r Cwmni hefyd yn cysidro ymestyn y prosiect ar draws swyddfeydd Grant Thornton eraill ledled y DU.
Dywedodd Geraint Davies, Uwch Bartner
Grant Thornton UK LLP, Caerdyd:
'Drwy gomisiynu gwaith celf, roeddem ni'n awyddus i wneud rhywbeth gwahanol i'r arfer er mwyn cydnabod pwysigrwydd gwerthoedd ein brand a dathlu adnewyddu ein swyddfeydd. Y delweddau fydd yn cael eu harddangos yw'r rhai hynny sy'n adlewyrchu ein brandio 'Persbectifau Unigol' orau, felly mae'r canlyniadau'n addo bod yn anhygoel.'
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae CBAT yr Asiantaeth Celf ac Adfywiad hefyd wedi cyd—weithio'n glos gyda Chyfreithwyr Hugh James, sydd wedi diweddu gyda thair arddangosfa 4 mis o hyd yn cynnwys gwaith gan 11 artist. Roedd Arts & Business Cymru yn hanfodol ar gyfer sefydlu'r berthynas a chafwyd cynnig buddsoddiad Partneriaid Newydd tuag at y bartneriaeth greadigol i gyd—weddu'r gefnogaeth a gynigwyd gan Hugh James. Mae'r Cwmni cyfreithiol yn hyrwyddwr allweddol ym myd y celfyddydau, ac eleni bu iddo ennill pum Gwobr Arts & Business Cymru am weledigaeth y cwmni ym maes datblygu staff trwy'r celfyddydau, gan gynnwys gwobr am eu gwaith arloesol gyda CBAT.
Dywedodd Rachel Jones
Arts & Business Cymru:
'Mae mwy a mwy o fusnesau ar draws Cymru'n defnyddio pŵer y celfyddydau i ysgogi a datblygu eu gweithwyr. Mae Arts & Business Cymru yn falch o ddwyn ynghyd pob elfen o weithlu busnes mewn modd mor gyffrous a chreadigol. Mae hi hefyd yn hanfodol bwysig rhoi llwyfan newydd i artistiaid Cymraeg i arddangos eu gwaith. Yn fyr, mae prosiect Celf yn y Swyddfa yn cynrychioli gwir fudd cilyddol — y factor pwysicaf mewn partneriaethau busnes/celf.'
Fodd bynnag, nid yn y gweithle'n unig y gall artistiaid wneud gwahaniaeth ond hefyd trwy gynnig atebion ymarferol a thrawiadol ar raddfa fyd—eang fel y gwelwyd yn ddiweddar gyda chwblhad pompren ddyfodolaidd St. Paul a ddyluniwyd gan artist Cymraeg ar gyfer Ffordd Ddeuol y Cwm ger Glyn Ebwy.
Mae adnewyddiad dan arweiniad artist yn lledaenu'n dawel ar draws pentrefi a threfi Cymru ac fel rhan o'r prosiect arloesol hwn comisiynwyd yr artist o Gaerfyrddin, Andrew Rowe, i gyd—weithio gyda Rowecord Engineering LTD, i asesu ffyrdd o integreiddio'r bont i'r dirwedd naturiol drawiadol a strydoedd gwneud y pentref, gan dalu sylw arbennig i strwythur y bont a'r goleuo.
Wedi ei greu o ddur medal a chyda phwysau o 250 tunnell, mae gan y bont fast canolog sy'n 32.5m o uchder, 70m o hyd a chyda rhychwant o 35m. Mae cynllun fertigol y bont a'i ddewis eofn o liwiau yn chwarae â thirwedd drawiadol dyffryn Ebwy Fawr ac i'w weld o bellter mawr.
Darparodd bompren St. Paul felly, nid yn unig isadeiledd trefol o ansawdd uchel a thirnod cofiadwy i Flaenau Gwent, ond hefyd yn gyfle gwych i arddangos manteision a dilysrwydd defnyddio artistiaid o fewn y broses gynllunio, yn ogystal â bod yn dystiolaeth bendant y gall safonau cynllunio wella'n sylweddol o fewn cyfyngiadau cyllido tynn.
Dywedodd Wiard Sterk
Cyfarwyddwr CBAT:
'Boed o'n ddarn o gelf sy'n cael ei arddangos yn yr ystafell gyfarfod neu'n ddarn hanfodol o isadeiledd trefol, gall celf gael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol o fewn ein bywydau bob dydd. Rydym wedi sylwi fod y byd busnes yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar werth celf ac ni ellir anwybyddu ei rôl yn dadeni corfforol, economaidd a chymdeithasol ein trefi a'n dinasoedd.'
Yn amlwg, mae sgiliau ymarferol a gweledigaeth greadigol artist yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i gynorthwyo i greu gofod cyhoeddus ac amgylcheddau gwaith deniadol a bywiog yn ogystal â datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel i siapio'r amgylchedd adeiladol. Gall hyn fod o fudd cymunedau trwy greu teyrnas gyhoeddus newydd a diddorol a busnes trwy ysgogiad staff a mantais gystadleuol mewn marchnad ble mae safon yn hytrach na phris yn dod yn factor sydd yn fwyfwy pwysig er mwyn sefydlu cytundebau.
A bostwyd: 20 Tachwedd 2005
Am ragor o wybodaeth :
Aldo Rinaldi, CBAT
Ffôn:
029 2048 8772
Rhodri Ellis Owen, Cambrensis
Ffôn: 029 2025 707
rhodri@cambrensis.uk.com
|
 |