cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Arwel Ellis Owen yn cael ei benodi'n Is-Lywydd Newydd y Llyfrgell Genedlaethol

Hoffai pawb yn Cambrensis longyfarch Arwel ar ei benodiad yn Is-Lywydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae datganiad y Llyfrgell Genedlaethol yn darllen fel a ganlyn:

Mae Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi bod Mr Dafydd Wigley a Mr Arwel Ellis Owen wedi'u penodi'n Llywydd ac yn Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dechreuodd eu penodiad ar 1 Rhagfyr 2007 ac mi fydd yn parhau am 4 blynedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth:

'Rwy'n falch iawn o gael penodi dau ffigur mor adnabyddus yng Nghymru i swyddi Llywydd ac Is-Lywydd ein Llyfrgell Genedlaethol. Mae profiad helaeth gan y ddau yn sgil eu gyrfaoedd a fydd yn ddefnyddiol yn y rolau hyn, ac rwy'n siwr y byddan nhw'n cyfrannu llawer i'r llyfrgell wrth iddi ddechrau ar ail ganrif ei bodolaeth.'

Dywedodd Dafydd Wigley:

'Mae'n anrhydedd fawr cael bod yn Llywydd un o sefydliadau pwysicaf Cymru, ac yn enwedig cael olynu Dr R Brinley Jones, a roddodd wasanaeth mor wych. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r staff i hyrwyddo ei chenhadaeth eithriadol bwysig yn ystod cyfnod o ddatblygiadau cyffrous.'

Dywedodd Arwel Ellis Owen:

'Rwy wrth fy modd bod gen i'r cyfle i weithio gyda Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu strategaeth gynaliadwy a hirdymor i ddyfodol sefydliad sydd, yn ddi-os, yn un o drysorau pennaf y genedl.'

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

'Mae'n bleser mawr cael croesawu'r bobl hyn a benodwyd i'r swyddi allweddol hyn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael cydweithredu â nhw i hyrwyddo buddiannau'r Llyfrgell a'i gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl.'

DIWEDD

*
Arwel Ellis Owen
*