Cyflwyno calendr a Phrif Arolygydd newydd Cadw
Castell ysblennydd Dolwyddelan o'r 13eg ganrif ym mro Conwy yw canolbwynt clawr calendar newydd 2008 Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gafodd ei lansio gan Brif Arolygydd newydd Cadw, Gwilym Hughes.
Mae'r calendr, sydd ar gael o'r rhan fwyaf o siopau ar leoliadau Cadw am bris o £9.95 yn cynnwys rhai o leoliadau hanesyddol adnabyddus Cymru gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd, Gwaith Haearn Blaenafon, Cestyll Dinefwr a Charreg Cennen ger Llandeilo, Sir Gar; Llys yr Esgob Tŷ Ddewi, Sir Benfro; Castell Dinbych, Sir Dinbych; Siambr Gladdu Parc Le Breos, Penrhyn Gwyr; Castell Rhaglan, Abaty Tyndyrn a Chastell Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy; Caer Rufeinig Caerllion ger Casnewydd a chestyll Biwmares a Chaernarfon yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Gwilym Hughes:
'Rwyf wrth fy modd i fod yn gweithio gyda Cadw ac yn edrych ymlaen at helpu cadw ac amddiffyn treftadaeth adeiledig arbennig Cymru. Mae cyfoeth henebion hanesyddol Cadw wedi cael eu cyfleu yn hyfryd, unwaith yn rhagor, ar gyfer calendr 2008 — ac er bod y flwyddyn nesaf i weld ymhell i ffwrdd, dydi hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae'r calendr hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd yn hoff o fod yn drefnus ac yn gwerthfawrogi etifeddiaeth amrywiol Cymru.'
Ychwanegodd Diane Williams, golygydd cyhoeddiadau Cadw:
'Rydym wedi comisiynu ffotograffiaeth drawiadol eleni — ac rydym yn hapus dros ben gyda'r calendr gorffenedig. Yn ogystal â chynnwys rhai o leoliadau mwyaf poblogaidd Cymru, megis Castell Caernarfon ac Abaty Tyndyrn, rydym hefyd wedi ffotograffu rhai o'r lleoliadau llai adnabyddus megis Castell Ynysgynwraidd a Siambr Gladdu Parc Le Breos, sydd yn aml yn cael eu hanghofio, ond heb os, yn werth eu gweld hefyd!'
Er mwyn archebu'r calendr yn uniongyrchol oddi wrth Cadw, cysylltwch â'r adran werthiant ar 01443 336 092 rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn neu e-bostiwch ar cadw.sales@wales.gsi.gov.uk
DIWEDD
Am wybodaeth bellach neu ffotograffau, cysylltwch â Lleucu Cooke neu Rhodri Owen ar 029 2025 7075 neu lleucu@cambrensis.uk.com
Ffotograffiaeth ar gael:
Y clawr — castell dolwyddelan
Castell carreg cennen
Castell biwmares
Castell rhaglan
Llys yr esgob tŷ ddewi
Nodiadau i Olygyddion:
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod yw hyrwyddo gwaith cadwraeth ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru a'r gwerthfawrogiad ohono. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau a gerddi hanesyddol, tirweddau ac archeoleg danddwr. Am fwy o wybodaeth ewch i safle we Cadw www.cadw.wales.gov.uk
|