cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Hanes Cymru’n edrych tua’r dyfodol

Mae’r seryddwr Russell Grant yn rhagweld dyfodol disglair i dreftadaeth yng Nghymru wrth iddo lansio calendr Cadw 2009. Bydd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, yn dathlu ei chwarter can mlwyddiant ym 2009 a’r safle a ddewiswyd fel clawr i’r calendr yw golygfa hyfryd o Gastell Cricieth, nid nepell o gartref Russell yng Ngogledd Cymru.

Pris y calendr fydd £9.95 ac ar gael i’w brynu o’r rhan fwyaf o safleoedd Cadw ac archfarchnadoedd ASDA. Ymysg y delweddau a geir yn y calendr, mae rhai o safleoedd hanesyddol enwocaf Cymru, gan gynnwys Castell Coch yng Nghaerdydd; castell mwyaf Cymru, Castell Caerffili; Safle Treftadaeth Bydd Gwaith Haearn Blaenafon; Capel Gwydir Uchaf a Castell Dolwyddelan yn Eryri; Castell Conwy; Castell y Fflint; Ffwrnais Ddyfi ger Machynlleth; Castell Harlech sydd yn edrych allan dros fae Ceredigion; Llys yr Esgob Llandyfái, Sir Benfro; Priordy Llanddewi Nant Hodni, ger y Gelli Gandryll yn ogystal â Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu yn Sir Fon.

Dywedodd Russell Grant, sydd yn byw ychydig filltiroedd o Gricieth

‘Rydw’i wedi cydweithio gyda Cadw yn y gorffennol, wrth wneud fy nghyfres deledu sydd wedi ennill gwobrwyon, Russell Grant’s Postcards of Britain. Fel hanesydd a seryddwr, dwi’n cael y gorau o’r ddau fyd, y gorffennol a’r dyfodol. Bydd y calendr hwn, sydd yn arddangos treftadaeth amrywiol ac anhygoel Cymru, o gymorth i mi wrth gynllunio’r flwyddyn sydd i ddod. Braint o’r mwyaf ydy byw mewn gwlad sydd â threftadaeth heb ei well, ac yn fy marn i, Castell Cricieth yw un o’r safleoedd hanesyddol hynotaf a mwyaf arwyddocaol ohonynt i gyd yng Nghymru ac yn Ynysoedd Prydain.’

Ychwanegodd Diane Williams, Rheolwr Cyhoeddiadau Cadw

‘Rydym wrth ein bodd gyda chalendr eleni sydd yn cynnwys ffotograffiaeth drawiadol tu hwnt. Mae’r darlun ar y clawr o Gastell Cricieth, sydd wedi ei leoli mewn lleoliad mor hyfryd, ar ben craig yn edrych dros Fae Tremadog, wir yn arbennig. Byddai’r olygfa hwnnw mewn cegin neu swyddfa yn sicr o ddod a gwen i’r wyneb.’

Er mwyn archebu’r calendr yn uniongyrchol o Cadw, cysylltwch a’r adran werthiant ar 01443 336092, rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn neu ebostiwch Er mwyn archebu’r calendr yn uniongyrchol o Cadw, cysylltwch a’r adran werthiant ar 01443 336092, rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn neu e-bostiwch cadw.sales@wales.gsi.gov.uk.

*
Arwel Ellis Owen
*