cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

cambrensis yn cyfathrebu o Gaernarfon

Mae 2005 yn nodi carreg filltir arbennig yn hanes Cambrensis gan gadarnhau statws y cwmni gyda'r mwyaf blaenllaw ym myd cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau Cymru. Ar ôl cipio'r wobr 'Tîm Bychan Gorau Cymru 2004/5' yng ngwobrau'r IPR yn Nhachwedd 2004 a gyda nifer o gleientiaid nodedig a'r rhestr honno yn prysur gynyddu, penderfynodd Cambrensis fod yr amser wedi dod i ehangu'r cwmni. Felly yn Haf 2005 gwelwyd agoriad swyddfa newydd yn Galeri, Caernarfon gyda'r gobaith o ategu llwyddiant y pencadlys yng Nghaerdydd.

Wedi ei lleoli yng nghysgod Castell Caernarfon yn Noc Victoria, mae Galeri yn ganolfan mentrau creadigol arobryn ac yn gysyniad newydd, cyffrous i Ogledd Cymru. Gan fod creadigrwydd a mentrau blaenllaw yn elfennol i'r diwydiant cyfathrebu, penderfynwyd mai Galeri oedd y safle delfrydol ar gyfer menter newydd Cambrensis.

Gwen Siôn, Rheolwr
Cambrenis Caernarfon:

'Roeddem bob amser wedi sylweddoli pa mor bwysig oedd meddwl y tu hwnt i'r brifddinas, yn ôl pob tebyg gan fod hanner staff Caerdydd o'r Gogledd!

Mae cael swyddfa yng Nghaernarfon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i'r cwmni ac yn ein galluogi i roi ffocws newydd i'n cleientiaid presennol, tra'n rhoi persbectif unigryw i ni ar faterion a barn leol na fyddai'n bosib mewn unrhyw fodd arall.  Mae'n atgyfnerthu'n ymrwymiad ni i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf.'

*

Am ragor o wybodaeth:

Gwen Siôn, Cambrensis
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com

*
cambrensis team, caernarfon
*