Unrhyw beth ond Cameo…
Mae’r Cameo, ers degawd bellach, wedi hawlio ei le fel rhan hanfodol o fywyd nos ardal boblogaidd Pontcanna a bywyd cymdeithasol Caerdydd. Dyma gyrchfan poblogaidd i unrhyw un sydd am gael eu gweld yn y brifddinas! Fe danlinellir ei statws fel prif glwb aelodau Caerdydd gyda ailwampiad sylweddol i’r adeilad Fictorianaidd deniadol sy’n gartref i’r clwb.
Cynlluniwyd dyluniad newydd y Cameo gan dîm SpaceBuro o Gaerdydd - wrth i’r Cameo nawr ehangu i gynnwys t? bwyta, bar ac ystafell fwyta breifat wedi ei banelu, sydd oll wedi ei wneud yn bosib gyda chaffaeliad yr eiddo drws nesaf i’r clwb gwreiddiol. Cydberchennog y Clwb yw’r wyneb adnabyddus o’r teledu, Rhodri Ogwen Williams, a bwriad yr ailwampiad yw adlewyrchu naws a hyder newydd dinas Caerdydd - gan gynnig amgylchedd unigryw a moethus i rwydweithio ac i fwynhau bwyd a diod o safon.
Dywedodd Rhodri Ogwen Williams, cydberchennog y Cameo
‘Y Cameo newydd fydd y ddihangfa berffaith o’r un hen dafarndai ledled y Deyrnas Unedig. Ein bwriad ni yw creu hafan moethus, ond hefyd cyrchfan i bartio, gyda’r lleoliadau gorau a’r mwyaf ecsgliwsif i bartio ledled y byd.
‘Edrychaf ymlaen at glywed ymateb aelodau hen a newydd a byddwn yn cynnig Aelodaeth Sylfaenydd i’r 100 person cyntaf i ymuno ag aelodaeth y clwb ac edrychaf ymlaen at groesawu ffrindiau hen a newydd i ymuno a ni ac i ddathlu gyda ni.’
Dywedodd Adrian Geach o SpaceBuro
‘Daeth yr ysbrydoliaeth am ddyluniad newydd y Cameo o’r clybiau bonheddwyr traddodiadol gydag elfen gyfoes. Y bwriad yw creu awyrgylch sydd yn medru cymhwyso i dawelwch cyfarfod busnes, boed parti preifat neu sgwrs hir dros goffi ac yna gweddnewid i barti preifat gyda cherddoriaeth, adnoddau bwffe a bar preifat gyda’r hwyr.
‘Gyda chefnlen lwyd, fodern a niwtral wedi’i gyfuno gyda muriau wedi eu panelu’n draddodiadol a chelfi lliwgar wedi eu dylunio’n arbennig, fe greir awyrgylch golau ac ysgafn yn ystod y dydd a’r golau’n isel a soffistigedig gyda’r hwyr. Yn ogystal â chefnlenni pwrpasol ar y muriau bydd atodion yn ategu at awyrgylch fydd yn gyfoes ac yn chwaethus.’
|