cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Cyfathrebu’n lleol ac yn fyd-eang – lansio gwefan Big Art Project Aberteifi

Mae gwefan newydd ar gyfer popeth sy’n ymwneud a’r Big Art Project yn Aberteifi wedi cael ei lansio. Wedi ei ddylunio gan gwmni lleol Mwldan Creadigol, fe fydd y safle rhyngweithiol, dwyieithog www.cardiganbigart.com / www.celfyddydaberteifi.com, yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Turbulence, y prosiect celf gyhoeddus uchelgeisiol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tref Aberteifi.

Gall ymwelwyr sy’n mewngofnodi i’r safle, gael cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau ar y darn celf arfaethedig cyn y cyfarfod cyhoeddus nesaf a gynhelir yn Aberteifi ar ddydd Mawrth y 26ain o Awst. Yn bresennol yn y cyfarfod, bydd yr arlunydd a ddewiswyd i greu’r darn celf, Rafael Lozano-Hemmer, curadur y prosiect, Wiard Sterk yn ogystal â budd-ddeiliaid fydd yn cynnwys y tîm dichonolrwydd technegol.

Bydd y cyfnod asesu dichonolrwydd y safle yn dechrau’n fuan, gydag arbrofion yn cael eu cynnal ar yr afon Teifi i asesu pa mor ymarferol fyddai lleoli y gosodiad celf yng Nghei’r Tywysog Siarl fel y bwriadwyd. Bydd y canlyniadau manwl a ganfu drwy’r astudiaeth dichonolrwydd yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ym mis Awst. Bydd y canlyniadau, fydd yn cynnwys yr effaith y bydd gosodiad celf o’r fath yn ei gael ar fordwyaeth a bywyd gwyllt yr afon, yn effeithio’n uniongyrchol ar hyfywdra’r darn celf yn y dyfodol a chreu sail i unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch a’i osodiad.

Mae’r cynnig a gyflwynwyd gan Rafael Lozano-Hemmer, yn cynnwys clwstwr o 127 bwi yn arnofio ar yr afon, gyda seinyddion, golau LED a sensoriaid fydd yn canfod unrhyw symudiad yn y d?r. Yna, caiff y bwiau eu hysgogi gan dymestl yn y d?r, gan ryddhau synau a recordiwyd o flaen llaw (ar y lan neu drwy’r we) fydd yn cael eu clywed o’r lan. Awgrym yr arlunydd, Rafael, yw bod y gwaith i adlewyrchu traddodiadau llafar y Cymry, megis cerdd a chan, gan greu llwyfan chwareus a chyfranogol sydd yn cael ei ysgogi gan gylchdroadau naturiol llanw a thrai.

Dywedodd Wiard Sterk, ar ran y Big Art Project

‘Mae llawer o waith yn dal i’w gwblhau cyn y gellir mwynhau ffrwyth llafur y gwaith celf yn Aberteifi. Er hyn, fe fydd y wefan yma’n cynnig ffordd wych o gyfathrebu’r broses o greu’r gwaith celf gyda’r cyhoedd a thrigolion Aberteifi. Rydym am i bawb fod yn ymwybodol o’r holl weithgaredd a sut a phryd mae’n digwydd. Y bwriad yw, cynnwys cymaint o bobl ag sy’n bosib ym mhroses y Big Art Project - a hynny unrhyw adeg yn y dydd, ac o unrhyw le yn y byd, pun ai Rafael yn blogio o’i gartref yng Nghanada neu un o drigolion Aberteifi yn postio cwestiwn iddo.

‘Gobeithiwn y daw’r wefan yn fforwm amlwg i nifer o wahanol ddialogau a sgyrsiau ac yn gyfrwng pwysig lle gall bobl ddod yn rhan o’r broses unigryw yma o gomisiynu celf gyhoeddus. Mae Rafael yn gredwr mawr ym mh?er y rhyngrwyd ac y mae wedi ei ddefnyddio’n helaeth yn ei weithiau blaenorol ac yn debygol hefyd o chwarae rhan blaenllaw yng nghynlyn hir dymor prosicet Turbulence. Mae’n addas felly y defnyddir y rhyngrwyd i hysbysu’r cyhoedd am y prosiect hynod gyffroes sydd ar waith yn Aberteifi.’

Ychwanegodd Sam Vicary, Rheolwr y Prosiect ar ran Mwldan Creadigol

‘Dyma’r prosiect celf gyhoeddus gyntaf o’i fath ar gyfer Aberteifi ac rydym yn falch iawn o’n tîm creadigol sydd wedi eu hymgynnull i weithio ar ddatblygu’r wefan. Gwnaethom ddatblygu’r safle i fod mor rhyngweithiol ag sy’n bosib ac mor hawdd i’w ddefnyddio ag sy’n bosib a gobeithiwn y bydd yn codi mwy o ymwybyddiaeth a chynyddu cyfranogiad yn y Big Art Project, ymysg pobl sydd yn rhan o’r broses yn barod a’r bobl hynny nad ydynt wedi clywed am y cynllun o’r blaen, yn lleol ac yn fyd-eang.’

Mae Big Art Project Aberteifi yn ymgorffori cynllun celf gyhoeddus uchelgeisiol gan Channel 4, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, yr asiantaeth genedlaethol i ddatblygu’r celfyddydau, a The Art Fund, elusen gelf annibynnol fwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig. Cafodd Aberteifi ei enwebu gan y cyhoedd, fel un o saith safle, ochr yn ochr â Beckton, Gogledd Belfast, Burnley, Ynys Mull, Sheffield a St Helens. Dechreuwyd ffilmio yn 2005 ac fe ddarlledir y gyfres deledu sylweddol yma ar Channel 4 ym mis Tachwedd, 2008.

*
Cardigan Big Art
*