cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Y llanw’n troi o blaid newid hinsawdd

Caiff adeiladwyr proffesiynol eu beirniadu yn aml am roi blaenoriaeth i elw yn hytrach nag elfennau amgylcheddol, ond mae Comisiwn Dylunio Cymru yn falch i fedru croesawu cam yn y cyfeiriad cywir, wedi cyhoeddiadau diweddar gan Gyngor y Diwydiant Adeiladu, yr UKGBC ac o arbenigedd y cartref.

Yn ystod cynhadledd diweddar ymysg gweithwyr o’r diwydiant adeiladu, fe enwyd newid hinsawdd fel eu pryder mwyaf dirfawr. Doedd ‘trio’n galetach’, bellach ddim yn ddigon da, a phenderfynwyd fod angen gwerthusiad ‘gwraidd a brig’ ar ddylunio er mwyn ceisio lliniaru effaith y diwydiant adeiladu ar newid hinsawdd. Mae’r disgwyliadau’n glir i’r diwydiant, wedi i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi ei bwriad i gyrraedd targed o adeiladu adeiladau cyfradd carbon sero yn unig erbyn 2011, pum mlynedd ynghynt na tharged Lloegr o 2016.

Dywedodd Carole-Anne Davies, Prif Weithredydd Comisiwn Dylunio Cymru

‘Mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi bod yn gefnogwr brwd o ddylunio cynaliadwy ers amser ac wedi pwysleisio y byddai unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol yn y maes hwn yn gorfod dod o’r diwydiannau dylunio proffesiynol. Cyn y gallwch adeiladu’n gynaliadwy rhaid dylunio cynaladwyedd. Rhywsut, yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi canfod ein hunain mewn sefyllfa o adeiladu gan ddefnyddio gormod o egni, adeiladau sydd ag adnoddau annigonol a chanddynt gysylltiadau trafnidiaeth gwael, wedi cyplysu a gwastraff adeiladol. Dydy’r sefyllfa ddim yn delfrydol.

‘Rydym wedi ceisio pwysleisio ac amlygu’r un neges am dros bum mlynedd, sy’n cynnwys dylunio da, effeithlon a chynaliadwy, ac o’r diwedd mae pobl yn gwrando. Mae hwn yn gyfle arwyddocaol iawn i’r diwydiant a’r cyflenwyr adeiladu ac mae’n galonogol iawn clywed am yr ymdriniaeth bositif o’r rheoliad arfaethedig. Mae sgiliau’r dylunwyr yn holl bwysig yn ogystal â pharatoi’r diwydiant cyfan. Fe ddylwn edrych tuag at ein dylunwyr mwyaf blaengar a dysgu oddi wrthynt.

‘Mae’r Comisiwn yn falch iawn mai’r cwmni o Gymru, Gaunt Francis, oedd y cyntaf i adeiladu t? â chyfaint adeiladol sydd yn unol â’r Cod Lefel 6 ar y Cod Tai Cynaliadwy. Hwn yw’r lefel uchaf ar gyfer adeilad carbon sero a’r targed ar gyfer 2016.

‘Mae’n wych fod gennym gwmni yma yng Nghymru sydd yn datblygu yn y ffordd yma a all rhannu gwybodaeth gyda’r farchnad adeiladu leol. Mae’n hen bryd a dweud y gwir. Gall y prosiectau yma ddarparu atebion i’r sialensiau sylweddol sydd wrth law ac mae’r ‘Barratt Green House’ gan Gaunt Francis yn rhywbeth y dylai’r diwydiant ddysgu ohono. Mae’n gyfle gwych i ddathlu’r gwaith da a rhannu’r wybodaeth a’r profiad a gafwyd o’r prosiect. Mae hefyd yn arwydd o gefnogaeth poblogaidd wed ii dros 22,000 o bobl bleidleisio am y cynllun pan gafodd ei hysbysebu mewn cystadleuaeth yn y Daily Mail.

‘Mae’r Comisiwn Dylunio’n gweithio gyda thimau dylunio a datblygu ar bob math o wahanol gynlluniau yng Nghymru ac mae’n ymddangos fel y bod y llanw’n dechrau troi. Er hyn, mae llawer o waith i’w wneud mewn amryw faes - ond y mwyaf yr ydym yn ei wybod am brosiectau o’r fath, a’r mwyaf deniadol y mae cyfleoedd o’r fath yn ymddangos, y gorau fyddai’r cynnydd. Nid oes gennym yr amser i aros am ganlyniadau - oherwydd newid hinsawdd yw bygythiad mawr ein hoes - a does dim byd fel targed i greu ffocws.

‘Rydym yn deall ei bod hi’n anodd, ar amser pan mae’r wasgfa economaidd yn cydio, ac yn cael cryn effaith ar y diwydiannau tai ac adeiladu, ond gwyddwn hefyd na fydd yr effaith amgylcheddol yn arafu er gwaethed y newid yn yr hinsawdd economaidd. Fel y dywedodd Paul King, o Gyngor Adeiladu UK Green, yr wythnos hon, rydym hefyd yn gweld ymrwymiadau sylweddol gan Gordon Brown a David Cameron wrth osod fframwaith cynaladwyedd, ac yng Nghymru rydym wedi gweithio ers amser i gyrraedd adeiladau carbon zero a chyfarfod ymrwymiadau a disgwyliadau uchel sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyrraedd gostyngiadau carbon blynyddol oddeutu 3% fel yr amlinellwyd yn One Wales.

‘Fel aelod o’r UKGBC, mae’r Comisiwn yn rhannu’r farn, nad yw’r hinsawdd economaidd yn ffafriol tuag at ein gweledigaeth, ond nid parhau yn unig y bydd y broblem amgylcheddol, ond yn gwaethygu. Mae cyfle i’r diwydiant ystyried a pharatoi ar gyfer amseroedd gwell, lle bydd cynaladwyedd yn angenrheidiol wrth wneud busnes a heb os yn fantais gystadleuol fydd yn gwobrwyo’r busnesau hynny sydd wedi buddsoddi a pharatoi mewn cynaladwyedd. Yn anffodus mae’r rhybudd a rhoddwyd yn adroddiad Stern wedi’i anghofio’n rhy gyflym, yn nhermau effaith ar CMC ac yn rhy aml mae busenesau wedi aros gyda’r ‘status quo’. Mae hwn yn gyfle arbennig i ddysgu a datblygu a gweithredu atebion i’r farchnad er mwyn llefydd i fyw gwell a mwy effeithlon.’

Dywedodd Andrew Sutton, pensaer y prosiect

‘Mae codi’r t? Cod 6 cyntaf gyda Barratt wedi rhoi cryn ddealltwriaeth i ni yn Gaunt Francis o gynaliadwyedd sylfaenol, cyfaint uchel. Bydd hefyd yn profi fod gan y gymdeithas ddylunio y sgiliau angenrheidiol i weithredu carbon sero. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y datblygiad yma ac arwain y ffordd wrth gyrraedd targedau’r Cynulliad erbyn 2011. Hoffem fel cwmni, chwarae rhan flaenllaw wrth hyrwyddo Cymru fel arweinydd yng nghyflenwad cynaliadwy ac uwchraddio sgiliau adeiladol.’

*
*