 |
darlun o hanes
Rhys o Ysgol yr Hendre sydd wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Cadw ar gyfer ysgolion cynradd fel rhan o weithgareddau Y Darlun Mawr fis Hydref.
Mae ymgyrch Y Darlun Mawr, a arweinir gan y darlunydd plant poblogaidd Quentin Blake, yn ymgais i ysgogi mwy o bobl i ddarlunio a defnyddio darlunio fel modd o archwilio'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Wedi taith gyflym o amgylch y castell, rhoddwyd y cyfle i'r plant gymryd rhan mewn gweithdy darlunio cyn arddangos eu gwaith ar fodel 8 troedfedd x 8 troedfedd o'r castell 'Cadw' yn islawr Tŷr yr Eryr.
Dewiswyd darlun Rhys o lawer o luniau a oedd wedi eu creu gan blant lleol yn ystod gweithgareddau'r wythnos. Cyfranodd Lesley Wood, artist lleol sydd wedi ei lleoli yn stiwdios Glynllifon, lun bendigedig yn wobr i Ysgol yr Hendre
Wrth gyflwyno'r llun i Rhys a Phennaeth Ysgol yr Hendre, Arwel Jones, dywedodd Lesley: 'Dewisais lun Rhys oherwydd ei naws hudolus, syml. Mae'r lliwiau'n llawn dychymyg a dwi'n mwynhau ei weledigaeth unigryw o'r castell. Mae o wedi llwyddo i ymgorffori'r glaswellt sydd o fewn muriau Castell Caernarfon a thrwy osod ei gastell ef ar fryn gyda choed mae wedi talu sylw i'r bryn gyferbyn â Chastell Caernarfon. Mae ffigwr y marchog sy'n gwarchod y brif ddôr hefyd yn atgoffa rhywun o hanes y castell. Dwi'n teimlo fod hwn yn llun hapus, bywiog sydd wedi ei lunio'n gelfydd a chydag ôl meddwl iddo. Da iawn chdi Rhys!'
Cyflwynwyd yr ail wobr, sef aelodaeth i Dreftadaeth Cymru Cadw, i Lowri o Ysgol y Gelli, a Danielle o Ysgol Bro Lleu a gipiodd y drydedd wobr o fynediad am ddim am flwyddyn i'r castell i'r holl deulu.
Dywedodd Stacy Birkett
Uwch Geidwad Castell Caernarfon:
'Roedd yn hyfryd iawn i weld y plant yn y castell ac i weld y modd yr oeddent yn dadansoddi hanes. Edrychwn ymlaen at Ddarlun Mawr hyd yn oed yn fwy'r flwyddyn nesaf!'
A bostwyd: 21 December 2005
Am ragor o wybodaeth neu luniau o ansawdd uchel, cysylltwch â:
Gwen Siôn, Cambrensis
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com
|
 |