cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Hir yw pob ymaros

A wyddech chi?

  • Beibl Cymraeg 1588, 21 mlynedd yn hwyr
  • Pont Menai, 5 mlynedd yn hwyr
  • Airbus A380 superjumbo, 48 o fisoedd yn hwyr
  • Stadiwm Wembley, 24 mis yn hwyr
  • Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, 18 mis yn hwyr
  • Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd, 14 mis yn hwyr
  • Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig… Dim ond 2 fis yn hwyr

Fe fydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy fuddsoddiad loteri sylweddoli, yn cael ei lansio'n swyddogol ar y 31ain o Ionawr 2008 yn hytrach na'r dyddiad a glustnodwyd yn wreiddiol, sef y 14 o Dachwedd 2007. Achoswyd yr oedi byr gan broblemau anrhagweladwy yng nghamau olaf y gwaith o gynhyrchu'r llyfr.

Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi:

'Tra mae'r oedi yn anffodus ac yn siom i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r prosiect, gobeithiwn y bydd pobl yn deall nad ar chwarae bach y mae cyhoeddi llyfr o'r pwysigrwydd a'r maintioli hwn. Ar ôl degawd o waith ysgrifennu, ymchwilio a golygu manwl, mae'n hollbwysig fod digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau fod y ddwy gyfrol mor fanwl gywir ag sy'n bosib i gyrraedd y safonau golygyddol uchaf; wedi'r cyfan, rhaid i'r gyfrol sefyll am genedlaethau i ddod.

Hoffwn ymddiheuro o waelod calon i'r holl bobl sydd wedi archebu copïau o flaen llaw, neu oedd yn bwriadu anfon copi o Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig fel anrheg Nadolig. Mae hwn yn gyhoeddiad gwerth aros amdano ac o leia mae gan bawb sydd wedi archebu copi rywbeth i edrych ymlaen at ei ddarllen yn ystod dyddiau hir a thywyll Ionawr.'

Mae Gwasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyr Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, wedi cyhoeddi bod estyniad yn awr ar gyfer archebu o flaen llaw am £50 ynghyd â phecynnu a phostio'n rhad ac am ddim (o fewn y Deyrnas Unedig), a hynny hyd at y 31ain o Ragfyr 2007. Mae'r wasg wedi cadarnhau fod y cynllun archebu o flaen llaw, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd mis Medi, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda chynifer â 4,500 o gopïau wedi eu harchebu. Fe all cwsmeriaid archebu copi drwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru ar www.gwyddoniadurcymru.com neu drwy eu siop lyfrau leol.

DIWEDD

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke, Cambrensis PR Cyf:
029 2025 7075
rhodri@cambrensis.uk.com

Nodiadau i Olygyddion:

Ceir gwybodaeth bellach am Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ar-lein drwy fynd i'r wefan www.gwyddoniadurcymru.com

Gwasg Prifysgol Cymru, a sefydlwyd yn 1922, yw'r prif gyhoeddwr ysgolheigaidd yng Nghymru.

Yr Academi Gymraeg yw'r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru
www.academi.org
post@academi.org

Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig wedi derbyn nawdd sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol.

 

*
Gwyddoniadur Cymru
*