cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

aelodau'r cynulliad yn gweld y golau ar arbed ynni

Wrth i'r wlad gofleidio Wythnos Arbed Ynni, rhwng Hydref 24—30, mae Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi troi allan i ddysgu pa mor hawdd yw hi i arbed ynni, arian a'r amgylchedd. Mae menter genedlaethol, Wythnos Arbed Ynni, yn anelu i godi ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol, hirdymor y mae defnyddio ynni yn ei gael ar newid hinsawdd — a rôl yr unigolyn yn y cyd—destun yma.   
 
Bydd yr Aelodau Cynulliad canlynol; Sandy Mewies, Brynle Williams, Helen—Mary Jones a Mick Bates yn cyfarfod a Bob Cherryman o Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru i lansio ymgyrch 'Arbedwch eich %20 chi' yr ymddiriedolaeth, a chanfod sut y gall pobl Cymru arbed £130 miliwn mewn biliau ynni bob blwyddyn wrth ddilyn ambell ganllaw syml.

Mae'r ymgyrch yn ffocysu ar sut y gall yr unigolyn arbed %20 o'r ynni y maent yn ei ddefnyddio yn ddyddiol i atal newid hinsawdd yng ngolau targedau'r llywodraeth Brydeinig o leihau allyriad CO2 20% cyn 2010. Cynhwysa'r ymgyrch 'Arbedwch eich 20% chi' sawl elfen wahanol o neges, sydd yn annog pob unigolyn i gymryd cyfrifoldeb er mwyn cyrraedd targed y Deyrnas Unedig, a gwneud ein rhan i leihau allyriad CO2 oddeutu 20%.

Bydd yr wythnos ei hun yn amlinellu'r canfyddiadau o ymchwil a gafodd ei gomisiynu'n arbennig, a fydd yn arddangos yr angen i gyrraedd y targed o 20%, o bersbectif yr unigolyn ac yn Brydeinig, a pha deipoleg y mae unigolion yn syrthio oddi tano o'i  gymharu â faint o ynni sy'n cael ei dreulio.

Wrth wneud sylw ar ran Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru, dywedodd Bob Cherryman:

'Mae gennym oll rôl i'w chwarae yng nghyd—destun arbed ynni ac amddiffyn ein hamgylchedd a'n hinsawdd. Hoffwn annog y cyhoedd yng Nghymru i ymuno a'r ymgyrch 'Arbedwch eich 20% chi' — a gallai arbed hyd at £250 y flwyddyn mewn biliau ynni. O ganlyniad i rhai canllawiau syml fe fydd eich tai mwy cysurus yn y Gaeaf ac yn fwy claear yn yr Haf.

Wrth gyd—weithio, a phawb yng Nghymru yn mabwysiadu ein polisi ymarferol ac uniongyrchol, gallwn gyrraedd ein targed ac arbed £130 bob blwyddyn. Rydym ni yn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru a'n rhwydwaith o Ganolfannau Cyngor Effeithlonrwydd ar draws Cymru, yma i gynorthwyo gan ddarparu cyngor di—duedd ac arweiniad ym mhob agwedd cynllunio ynni. Cysylltwch a ni ar 0800 512 012 neu ar ein gwefan 'Wrth gyd—weithio, a phawb yng Nghymru yn mabwysiadu ein polisi ymarferol ac uniongyrchol, gallwn gyrraedd ein targed ac arbed £130 bob blwyddyn. Rydym ni yn yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru a'n rhwydwaith o Ganolfannau Cyngor Effeithlonrwydd ar draws Cymru, yma i gynorthwyo gan ddarparu cyngor diduedd ac arweiniad ym mhob agwedd cynllunio ynni. Cysylltwch â ni ar 0800 512 012 neu ar ein gwefan www.est.co.uk '


A bostwyd: 4 Tachwedd 2005

*

Am ragor o wybodaeth:

Rhodri Ellis Owen, Cambrensis
Ffôn: 029 2025 707
rhodri@cambrensis.uk.com

*

Nodiadau'r Golygydd:

Mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yng Nghymru yn cynnig cyngor ar arbed ynni yn rhad ac am ddim drwy'r wefan www.est.co.uk neu drwy'r rhwydwaith o Ganolfannau Effeithlonrwydd Ynni yng Nghasnewydd, Trefdraeth a'r Wyddgrug ar y rhif ffôn canlynol 0800 512 012.

Dyma ddeg uchaf argymhellion yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yng Nghymru Gaeaf yma yw:

1. Edrychwch am geudodau...
Mae oddeutu 33% o wres y tŷ yn cael ei golli drwy'r muriau, felly mae eu hynysu yn o'r ffyrdd mwyaf cost—effeithiol o arbed ynni yn y tŷ. Er nad yw pob adeilad yn addas, os adeiladwyd eich tŷ rhwng yr 1930au a'r 1980au gallwch wneud cais am ynysu ceudodau eich muriau, ac arbed hyd at £120 ar eich biliau gwresogi blynyddol! Mae'n waith syml, rhad a di—lol. Os byddai pawb yng Nghymru sy'n medru, yn ynysu ceudodau eu muriau 'fory, bydd yr arbediad ar ynni yn dod i gyfanswm o £43 miliwn bob blwyddyn!

2. Boilers...os nad yw wedi torri…effallai fod angen ei drwsio
Mae boeleri rhan amlaf yn torri i lawr yn y Gaeaf, felly mae'n hanfodol i chi wirio eich boiler yn yr Haf. Os mae eich boiler dros 15 mlwydd oed, mae'n debygol ei fod yn amser i chi ei amnewid am un newydd ynni effeithlon. Boeleri sy'n cywasgu'n effeithlon, yw'r math mwyaf effeithlon, a gallant olygu lleihad o un rhan o dair o'ch biliau gwresogi yn syth, a hyd yn oed fwy byth os ydych yn uwchraddio i reolaeth fodern. Os byddai pawb yng Nghymru yn newid i foeler cywasgu, byddwn yn arbed £60 miliwn y flwyddyn! I gymharu boeleri hen a newydd, cymerwch olwg ar www.boilers.org.uk

3. Byddwch yn garedig i'ch rhewgell...
Rhewgelloedd ac oergelloedd yw'r teclynnau sy'n gweithio fwya' called yn ein ceginau — mae'n ffaith bod cartrefi yng Nghymru yn gwario dros £58 o drydan ar rewi ac oeri yn unig bob blwyddyn. Caewch y drws cyn gynted ag sy'n bosib, Ceisiwch osgoi rhoi bwyd cynnes yn yr oergell, dadrewch eich rhewgell yn rheolaidd a sicrhewch fod seliau'r drws yn gweithio'n iawn.

4. Edrychwch am y logo...
Edrychwch allan am logo argymelliedig arbed ynni pan yr ydych yn prynu teclunau trydanol. Mae'r logo'n ymddangos amryw eang o gynhyrchion — o fylbiau golau i declynnau golchi, sy'n dangos y teclunau sydd fwyaf ynni effeithlon yn ogystal â bod yn rhad i'w rhedeg. Gall amnewid oergell a rhewgell hen am un newydd Argymelliedig Ynni Effeithlon, arbed i chi £35 bob blwyddyn. Os byddai Cymru gyfan yn gwneud y newidiadau yma'r wythnos hon, gyda'n gilydd byddwn yn arbed £22miliwn bob blwyddyn!

5. Rhowch anrheg i'ch tanc dwr poeth… rhowch siaced iddo
Dim ond ychydig bunnoedd bydd yn rhaid i chi dalu am orchudd ynysu ar eich tanc dwr poeth, ac fe fydd yn talu am ei hun o fewn misoedd. Gosodwch un mor drwchus â 75mm (3”) ac fe allwch arbed £15 y flwyddyn. Os byddai pob cartref yng Nghymru yn gosod gorchudd ynysu ar eu tanc dwr poeth, byddwn yn arbed £3 miliwn mewn ynni bob blwyddyn.

6. Caewch eich llenni pan mae'n nosi…

Wrth i'r dyddiau oeri, bydd cau eich llenni pan mai'n gyfnos yn atal gwres rhag  dianc drwy'r ffenestri.

7. Syniad da… prynwch fwlb golau ynni effeithlon
Cyfnewidiwch eich bylbiau golau am rai sy'n arbed ynni. Wedi eu prisio oddeutu £3.50, mae bylbiau ynni effeithiol yn para 12 gwaith yn fwy na bylbiau golau cyffredin, a gallwch arbed £7 ar eich bil trydan blynyddol. Os byddai pob cartref yng Nghymru yn gosod un bwlb, byddwn yn arbed £3miliwn bob blwyddyn!

8. Cymerwch I'r llawr… Curwch y drafftiau
Stop draughts and heat escaping by draught proofing the gaps around doors and windows. This measure could shave £10—15 off your annual heating bill.

9. Gweld dwbl… drwy leihau colled gwres hyd at 50%
Mae ffenestri dwbl yn lleihau colled gwres drwy ffenestri hyd at 50% a all arbed ichi dros £60 ar eich bil gwresogi blynyddol.

10. Gwnewch archwiliad ynni ar eich tŷ— byddwch yn oleuedig
Am adroddiad ar faint o ynni y gallwch arbed yn eich cartref, cwblhewch y ffurflen ar wefan Ymddiriedolaeth Arbed Ynni www.est.co.uk

Neu gallwch gael hyd i fersiwn ar bapur drwy ffonio eich Canolfan Cyngor Ynni Effeithlon ar 0800 512 012. Mae ein staff yn y canolfannau yma yn medru cynnig cyngor rhad a diduedd ar sut y mae gwneud eich cartref yn fwy ynni effeithiol, eich cynghori am grantiau sydd ar gael yn eich ardal a sut y mae gweithredu mesurau ynni effeithlon.

*
get streets ahead with energy efficiency
*
get streets ahead with energy efficiency
*
get streets ahead with energy efficiency
*
get streets ahead with energy efficiency