 |
gŵyl ffilm caerdydd yn mynd yn ôl i'r ysgol
Ffilm am brofiadau artist ifanc uchelgeisiol wrth iddo ddechrau mewn ysgol gelf gyda breuddwydion o fod yr arlunydd uchaf ei barch ar y ddaear ac ennill calonnau ei gyd-fyfyrwyr benywaidd, dim ond i ddysgu sut mae'r byd celf go iawn yn gweithio, sy'n agor Gŵyl Ffilm Caerdydd yn Cineworld ar yr 8fed o Dachwedd.
Mae Art School Confidential wedi ei gyfarwyddo gan Terry Zwigoff (Bad Santa) ac yn cynnwys sêr byd enwog, Max Minghella, Sophie Myles, John Malkovich, Jim Broadbent, Steve Buscemi a Angelica Huston. Prif ffilmiau eraill sydd yn cael eu cynnwys yn rhaglen yr ŵyl eleni yw Venus, Hollywood Land, Stranger than Fiction a'r ffilm sy'n cloi'r ŵyl eleni, Big Nothing.
Mae talent Cymreig yn amlwg yn rhaglen eleni wrth i wyth brif ffilm gan gyfarwyddwyr o Gymru gael eu cynnwys yn yr ŵyl yn eu mysg ffilmiau sy'n cael eu dangos am y tro cyntaf o Gymru, Ewrop a gweddill y byd, gan Eric Styles, Dave Evans, Ashley Way, Helen Grace, Karen Bird, Caradog James a Justin Golding.
Mae ffilm i blesio pawb, o ffefryn y plant James and the Giant Peach, fel rhan o ddangosiadau arbennig Roald Dahl, i ffilmiau arswyd gyda'r hwyr, ffilmiau dogfen nodwedd sy'n delio â phynciau cymdeithasol a gwleidyddol deifiol a ffilmiau animeiddio hir a byr.
|