cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Llond Poced o Ffeithiau Gwyrdd

Oeddech chi’n gwybod fod pedair miliwn tunnell o sbwriel yn cael ei daflu bob blwyddyn yng Nghymru, digon i lenwi Stadiwm y Mileniwm pob 20 diwrnod? Neu fod 240 miliwn o glytiau parod yn cael eu taflu’n flynyddol, mae hynny bron yn 500 bob munud?

Dyma ddim ond dau o ffeithiau rhyfeddol sydd i’w darganfod yng nghyhoeddiad diweddaraf y Dref Wen, “Y byd yn eich poced”. Wedi ei ysgrifennu gan Gwenith Hughes, sy’n arbenigo mewn amgylchedd a datblygu cynaliadwy, mae’r llyfr poced hwn yn frith o ffigyrau a ffeithiau chwim sy’n datgelu’r her a’r sialens sydd yn ein hwynebu heddiw wrth i ni geisio lleihau llygredd a gwastraff o bob math. Mae’n drysorfa o wybodaeth amgylcheddol, o newid hinsawdd i dirlenwi ac o fasnach deg i nwyddau organig.

‘Roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr a oedd yn cyflwyno pwysigrwydd yr amgylchedd mewn dull hwyliog a chwim’

Meddai Gwenith, sy’n 25 ac yn byw yn Aberystwyth.

‘Er bod straeon am yr amgylchedd yn y newyddion yn ddyddiol, dwi ddim yn sicr faint mae pobl yn cymryd sylw. Ond os ydych chi’n clywed ein bod ni yng Nghymru yn cael gwared â digon o sbwriel i lenwi Stadiwm y Mileniwm pob ugain diwrnod, neu ein bod ni’n taflu traean o bob bag o fwyd yr ydym yn ei brynu, dwi’n credu ei bod hi’n haws deall graddfa’r broblem.’

Yn ogystal â chynnig ffeithiau a ffigyrau chwim, mae’r llyfr hefyd yn cynnig awgrymiadau syml ar sut y gallwn leihau ein gwastraff drwy wneud newidiadau bach bob dydd. Cau’r llenni a throi’r gwres i lawr yn hytrach nac agor ffenestr er enghraifft, neu brynu cig o Gymru yn lle o dramor gan gefnogi’r economi lleol a chwtogi ar y carbon deuocsid sy’n cael ei greu. Mae’r llyfr yn cynnig awgrymiadau ar sut i leihau gwastraff a niwed i’r amgylchedd yn y cartref, yr ardd, gydag anifeiliaid anwes, wrth deithio ac yn y swyddfa.

Meddai Ann MacGarry o’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, a fu’n cynnig cyngor i Gwenith wrth iddi ysgrifennu’r llyfr

‘Mae’n wych gweld llyfr ymarferol fel hwn, sy’n edrych ar bethau o safbwynt Cymru ac wedi ei ysgrifennu’n Gymraeg, ar gael mewn siopau llyfrau. Dim ond gobeithio y bydd pobl yn mynd ati i ddilyn y cyngor sydd ynddo!’

Y byd yn eich poced
Dref Wen
£3.99
ISBN 978-1-85596-801-1

Ffeithiau chwim – Y Byd yn Eich Poced

  • Mae pobl Cymru’n defnyddio cymaint o adnoddau fel y byddai angen tair planed i’n cynnal pe byddai pawb yn gwneud yr un fath.
  • Mae gwyddonwyr yn dweud y bydd tymheredd y byd yn codi rhwng 3ºC a 6ºC yn y 100 mlynedd nesaf. Cododd tymheredd y byd 6ºC 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl a diflannodd 95% o blanhigion ac anifeiliaid y byd ar y pryd.
  • Y diwydiant bwyd a diod sy’n gyfrifol am 25% o ôl-troed ecolegol Cymru.
  • Bydd pob bag plastig sy’n mynd i’r domen sbwriel yn cymryd 500 mlynedd i bydru. Rydym yn defnyddio 500 miliwn o’r rhain bob wythnos.
  • Y Nadolig diwethaf, defnyddiwyd a thaflwyd digon o bapur lapio i orchuddio Ynys Guernsey. Byddai ailgylchu dim ond hanner yr 8,000 tunnell o bapur lapio a gynhyrchwyd yn arbed 25,000 o goed.
  • Mae cartrefi Prydain yn taflu traean o gynnwys pob bag bwyd maent yn ei brynu, sef 6.7 miliwn tunnell o fwyd bob blwyddyn. Mae hanner ohono’n fwytadwy, ac mae’n cyfrif am 19% o wastraff domestig y wlad. Mae’r math yma o wastraff yn rhyddhau nwy methan, nwy sy’n llawer mwy pwerus na charbon deuocsid. Byddai atal gwastraff o’r math hwn yn cael yr un effaith a chael gwared ar 20% o geir Prydain.
  • Mae angen coedwig yr un maint â Chymru i gynhyrchu’r holl bapur mae Prydain yn ei ddefnyddio bob blwyddyn.
  • Cred gwyddonwyr y bydd 150 miliwn o bobl y byd yn gorfod gadael eu cartrefi erbyn 2050 oherwydd newid hinsawdd.
*
Llond Poced o Ffeithiau Gwyrdd
*