cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

cyrraedd y brig ym myd busnes yng ngwynedd

Daeth rhai o'r goreuon ym myd busnes yng Ngwynedd ynghyd yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon ar nos Iau, 25 Mai 2006 ar gyfer Gwobrau Busnes Gwynedd, digwyddiad wedi ei drefnu ar ran Cyngor Gwynedd gan Cambrensis ac Atom.

Dyma'r tro cyntaf i'r gwobrau, a ddenodd dros 150 o  westeion, gael eu cynnal yn y sir, a phrofodd yr achlysur fawreddog yn glo teilwng i Wythnos Fusnes Gwynedd ac yn goron ar gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Gyngor Gwynedd, yn ymwneud â materion busnes a mentergarwch ar hyd a lled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, sy'n arwain ar Ddatblygu ar Gyngor Gwynedd:

'Cafwyd ymateb gwych i Wythnos Busnes Gwynedd ac i'r cyntaf o nosweithiau Gwobrau Busnes Gwynedd. Braf oedd gweld cymaint o bartneriaid yn cydweithio mor agos er mwyn arddangos yr amrywiaeth cyfoethog o fusnesau sydd yn llwyddo'n lleol yma yng Ngwynedd.

Mae Gwynedd yn lle da i fyw ac yn lle da i fentro, ac mae'r Wythnos Busnes wedi bod yn gyfle arbennig i ddathlu llwyddiannau'r goreuon o blith busnesau, ysgolion a sefydliadau'r Sir.

Rydym yn hyderus y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant yma, ac y daw'r wythnos a'r noson wobrwyo yn ddyddiad pwysig yng nghalendr busnes Gwynedd a Chymru, ac yn fodd o annog mwy ohonom yng Ngwynedd i fentro.


A bostwyd: 16 Mehefin 2006

*

Am ragor o wybodaeth:

Rhodri Ellis Owen
Ffôn: 029 2025 707
rhodri@cambrensis.uk.com

Gwen Siôn, Cambrensis
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com


*
cambrensis puts on the glitz!