cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

ystafelloedd ysbrydoledig

Cynllunio mewnol yng Nghymru yw canolbwynt cyhoeddiad newydd sy'n cael ei lansio heddiw, gan y cynllunydd dodrefn a chyn-enillydd Cymraes y Flwyddyn, Angela Gidden, yn Sefydliad Gweithwyr Oakdale, Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd. Mae'r llyfr, sydd wedi cael ei ysgrifennu gan yr awdur clodfawr ac ymgynghorwr cynllunio mewnol hanesyddol Charles Kightly, yn cynnwys nifer o ystafelloedd gorau Cymru, o'r flwyddyn 400 tan y 1960au.
 
Comisiynwyd y llyfr gan Cadw, yr adran amgylchedd hanesyddol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu, cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad o'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae'r llyfr yn rhoi cipolwg arbennig i mewn i addurno'r cartref dros y canrifoedd ac wedi ei ddarlunio yn hardd gyda ffotograffau cyfoesol a hanesyddol o gartrefi Cymreig gan gynnwys manylion lliwgar o bapur wal, paent a brethyn.
 
Y neges lethol yn y llyfr yw nad oedd y gorffennol yn le diflas a salw, fel sy'n cael ei bortreadu mewn ffilmiau ac ar y teledu yn aml. Nid yn unig oedd ein cyndeidiau yn gwerthfawrogi lliw, roedd eu defnydd o liw hefyd yn effeithiol iawn mewn cynllunio mewnol ac addurno.
 
Er ei fod, ar brydiau, yn anodd edrych nôl i ganrifoedd cynt, mae'r olion lliw a defnydd, golau a gwres oedd yn addurno ystafelloedd ein cyndeidiau yn gallu cael eu darganfod mewn tystiolaeth archeolegol, dogfennau, lluniau a ffotograffau yn ogystal â defnyddiau, papurau wal a phaent. Am y tro cyntaf, mae 'Living Rooms' yn dod â'r elfennau yma at ei gilydd a dangos sut oedd pobl yng Nghymru yn addurno eu cartrefi dros gyfnod o fwy na 1,000 o flynyddoedd.

Dywedodd Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw a benodwyd yn ddiweddar:

'Mae cynllunio mewnol yn cael ei ystyried fel rhywbeth cyfoes ond, fel y dangosir y llyfr hwn, mae wedi chwarae rhan bwysig yng Nghymru dros y canrifoedd, yn enwedig yn y canoloesoedd.
 
Mae'n bleser cefnogi a hyrwyddo'r cyhoeddiad hwn, sy'n ein tywys ar daith arbennig drwy ystafelloedd gorau Cymru ac sy'n dangos enghreifftiau prin o orchuddion wal, llenni a dodrefn gorau Cymru, llawer sydd nawr wedi eu cadw yn ddiogel yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.'

Dywedodd Angela Gidden:

'Wedi fy magu yng Nghymru, mae fy ethos cynllunio yn sicr wedi ei wreiddio yn ein gorffennol diwylliannol cryf ond ers darllen y llyfr unigryw yma, rwyf wedi cael fy ail ysbrydoli gan gyfoeth a harddwch ein hanes cynllunio tai. Yn ddi-os, bydd 'Living Rooms' yn dal dychymyg a hyd yn oed adfywio steiliau cynllunio'r gorffennol, ond gyda thro cyfoesol. Mae'n anrheg berffaith i bob tŷ ffasiynol yng Nghymru y Nadolig hwn.'

Wrth sôn am ei gyhoeddiad, dywedodd Charles Kightly:

'Y mwya' rwy'n ymchwilio i mewn i orffennol cryf cynllunio mewnol yng Nghymru, y mwya' argyhoeddedig ydw i fod ein rhagflaenwyr yn gosod gwerth enfawr ar harddwch dodrefn eu cartrefi. Mae'n braf cael dweud bod darluniau wal gartref, sydd tan yn ddiweddar wedi eu hystyried yn brin yng Nghymru, nawr yn cael eu darganfod mewn mwy o lefydd. Hyd yn oed wrth roi'r llyfr yma at ei gilydd, darganfyddais i yng nghanolbarth Cymru orchudd wal hesg o'r 17eg ganrif, sy'n debygol o fod yn unigryw ym Mhrydain heddiw.

Mae ymwybyddiaeth yn tyfu o'r ffaith fod nodweddion ystafelloedd diweddar — fel y carthenni chwyrliog a'r papurau wal effaith metalig o'r saithdegau — yn cael eu hanghofio yn gyflym iawn. Os oes gennych chi rhain yn eich atig, peidiwch â'u taflu i ffwrdd. Maen nhw'n gymaint rhan o hanes cynllunio mewnol a'r llenni sidan mewn plastai Sioraidd.


A bostwyd: 12 Rhagfyr 2005

*

Am wybodaeth bellach neu luniau, cysylltwch â:

Rhodri Ellis Owen, Cambrensis
Ffôn: 029 2025 7075
rhodri@cambrensis.uk.com

*

Nodiadau i'r Golygydd:

Cadw yw'r adran amgylchedd hanesyddol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu, Cadw a hyrwyddo gwerthfawrogiad o'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau a gerddi hanesyddol, tirweddau ac archeoleg danddwr. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan newydd Cadw: www.cadw.wales.gov.uk

Mae'r llyfr, 'Living Rooms — Interior Decoration in Wales 400-1960' ar gael o siopau Cadw a thrwy'r post o Cadw ar 01443 336092 am bris o £8.95.

Fel hanesydd academaidd yr hyfforddodd Dr Charles Kightly. Yn dilyn cyfnod fel Awdur Ymchwil yn Ymddiriedolaeth Hanes y Senedd (1971—77), mae Charles wedi gweithio yn barhaol, ac yn enwedig yng Nghymru, fel awdur, golygydd, dyfeisiwr arddangosfeydd a theithiau clyweled, ysgrifennydd testun, ymgynghorydd ar dwristiaeth hanesyddol, ac adnewyddwr ac ailgrëwr adeiladau hanesyddol.

*
drawing inspiration from history
*