cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Mae tannau tynn yn medru torri

Mam dda, newyddiadurwraig arbennig, ffigwr cyhoeddus, areithiwr heb ei ail. Ond ychydig a soniwyd yn ddiweddar am Jennie Eirian Davies, un o ffigyrau amlycaf Cymru rhwng yr 1950au a'r 1980au cynnar. Mae rhaglen ddrama ddogfen arbennig ar S4C, Jennie, yn bwrw golwg ar fywyd un o'r bobl a arweiniodd y ddadl yn erbyn sefydlu sianel Gymraeg ei hiaith.

Siôn Eirian:

'Roedd hi'n fam ffantastig, yn ffeindio amser rhwng pob dim arall i roi oriau ac oriau bob dydd, ddydd ar ôl dydd i fi a 'mrawd. Doedd hi ddim yn medru ymlacio, doed 'na ddim llwybr diog.'

Ond wedi oes o brysurdeb, dewisodd hi ffordd drasig ac annisgwyl o ddirwyn ei bywyd i ben. Mae'r rhaglen hon yn olrhain hanes y wraig uchelgeisiol a'r hyn a wnaeth i un mor dalentog a chreadigol roi'r ffidil yn y to.

Rhian Morgan sy'n portreadu un o ffigyrau amlycaf byd y 'pethe' Cymraeg gyda chyfraniadau gan Branwen Jarvis, Dafydd Elis-Thomas, Gwilym Owen a mab hynaf Jennie, Siôn Eirian ymysg eraill.

Dywed Arwel Ellis Owen, cynhyrchydd y rhaglen o gwmni Cambrensis:

'Fe fu Jennie yn arwr imi ers dyddiau coleg pan ysbrydolodd genhedlaeth o gyw newyddiadurwyr gyda'i hannibyniaeth meddwl, ehangder ei diddordebau a'i steil o ysgrifennu a chyflwyno dadl'.

Disgrifia'r rhaglen yr hyn a welai Jennie fel 'ei thaith ysbrydol ei hunan' o'i geni yn Llanpumsaint yn 1925. Aeth i'r coleg yn Aberystwyth, ac yn y fan honno y syrthiodd mewn cariad gyda'i 'llanc bohemaidd', Eirian Davies, a ddaeth ymhen amser yn ŵr ac yn gymer iddi. Dilynir ei hymdrechion ym myd gwleidyddiaeth gyda'i hymgais aflwyddiannus i fod yr Aelod Seneddol cyntaf dros Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin ym 1955.

Arwel Ellis Owen:

'Roedd y wasg brint Gymraeg yn sobr o aneffeithiol cyn i Jennie afael yn olygiaeth Y Faner, ac yn sydyn roedd 'na wefr a blas ar ddarllen cylchgrawn wythnosol mwya' dylanwadol y cyfnod'.

Ar y rhaglen cawn brofi un o gyfnodau mwyaf arwyddocaol bywyd Jennie, pan ddaeth yn olygydd ar yr wythnosolyn Cymraeg, Y Faner. O'i bencadlys yn y Bala — profodd Y Faner i fod yn gerbyd i syniadaeth radical Jennie. Arweiniodd barn gref Jennie yn erbyn sianel Gymraeg iddi ennill nifer o elynion o fewn y 'cylch Cymraeg' ac ystyriwyd ei gwrthwynebiad i ymgyrch Gwynfor Evans 'yn heresi' yn ôl yr hanesydd Dr John Davies.

Er i'r Faner flodeuo o dan ei golygyddiaeth, profodd ei gynhyrchu yn faich cynyddol arni, gyda nifer yn troi eu cefnau ar yr wythnosolyn.

Yn ôl Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

'Yn y cyfnod hwn, gweithreda gwleidyddiaeth Cymru yn y coridor M4, rhwng Caerdydd a Llundain - gyda Jennie a'r Bala yn ynysig ac ymhell o'r berw gwleidyddol.'

Ymddiswyddodd Jennie o'r olygyddiaeth ychydig ddyddiau cyn ei marw disymwth ym Mai 1982.

Jennie resigned from the editorship of Y Faner, a few days before her untimely death in May 1982.

Fel y dywed Branwen Jarvis:

'Roedd Jennie yn byw mewn cyflwr o densiwn — y tannau oedd wedi eu tynnu mor dynn — ac mae tannau tynn yn torri'.

Jennie
Nos Fawrth, 26 Chwefror, 9.00pm, S4C
Hefyd, nos Lun, 3 Mawrth, 9.30pm, S4C
(Isdeitlau Cymraeg a Saesneg)

Gwefan: s4c.co.uk/ffeithiol
Bandllydan: s4c.co.uk/gwylio

Cynhyrchiad Cambrensis Communications Ltd ar gyfer S4C


*
newyddion
*