cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

llwyddo'n lleol ar daith

Cafodd bobl ifanc ar hyd ac ar led Gwynedd y cyfle i gael blas ar sut brofiad yw gweithio yng Ngwynedd fel rhan o sioeau teithiol  Llwyddo'n Lleol yn ddiweddar.

Roedd y sioeau teithiol yn rhan o ymgyrch gan Gyngor Gwynedd a'i bartneriaid i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yma yng Ngwynedd, a bod dewis i aros yng Ngwynedd i fyw a gweithio yn ddewis cyffrous ac anturus.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, sy'n arwain ar Ddatblygu ar Gyngor Gwynedd:

'Mae Llwyddo'n Lleol yn brosiect blaengar sydd eisoes wedi datblygu ysbryd o fentergarwch a hunan-hyder ymhlith plant a phobl ifanc y Sir.'

Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol — Datblygu Cyngor Gwynedd:

'Un dewis rydym yn awyddus iawn i hybu ymysg pobl ifanc yw'r opsiwn o ddechrau eu busnesau eu hunain yng Ngwynedd.

Felly daethon ni a nifer o entrepreneuriaid lleol o bob math o gefndiroedd gwahanol at ei gilydd i esbonio sut yr aethant o'i chwmpas hi a'r hyn y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd.'

Aeth Rhys Davies, yn wreiddiol o Lanuwchllyn a Rheolwr Gyfarwyddwr Camre Cymru sydd a'i bencadlys a chanolfan breswyl yn Neiniolen, a disgyblion Blwyddyn 9 ar daith rithwir o gwmpas y byd yn esbonio pam ei fod o'n dewis i fyw a gweithio yn Eryri pan mae ei fusnes gweithgareddau awyr agored yn mynd a fo ar allteithiau i gyrchfannau mor bell i ffwrdd ac Ynysoedd y Galapagos, Botswana, Borneo a Tsieina.

Rhannodd Laura Jones ei phrofiadau fel hyfforddwr ioga, ac esboniodd Rhys Roberts o'r gr?p Anweledig sut y mae wedi newid ei ddiddordeb ei hun mewn cerddoriaeth i mewn i fusnes sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu diddordeb mewn cerddoriaeth roc a pop.

Dangosodd yr awdures, y gyflwynwraig a'r colofnydd Bethan Gwanas nad yw gweithio ar eich liwt eich hun yn gorfod golygu cyfyngu eich hun i un math o waith, tra soniodd Alan Moult o Motion Blur sut y trodd ei obsesiwn gyda chreu gwaith animeiddio i mewn i gwmni sydd wedi ennill gwobrwyon a gweithio gydag enwau mawr y busnes.

Yn dilyn y sesiynau yma, roedd y bobl ifanc yn cael cyfle i roi eu syniadau eu hunain ar waith drwy gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol gyda Menter a Busnes.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Lewis, Cadeirydd Partneriaeth Llwyddo'n Lleol:

'Roedden ni eisiau tanlinellu'r ystod eang o opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc o ran dechrau busnes ei hunain.  Y llinyn arian sy'n cysylltu pob un o'r entrepreneuriaid hyn yw eu bod wedi newid diddordeb i mewn i'w gwaith pob dydd - bo hynny'n weithgareddau awyr agored, chwaraeon, ysgrifennu neu gerddoriaeth pop.  Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion, ac yn fwy pwysig na dim, yn gwneud iddynt sylweddoli bod yn bosib iddynt wneud hynny ar eu stepen drws.'


A bostwyd: 16 Mehefin 2006

*

Am ragor o wybodaeth:

Rhodri Ellis Owen, Cambrensis
Ffôn: 029 2025 707
rhodri@cambrensis.uk.com

Gwen Siôn, Cambrensis
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com


*
llwyddo'n lleol hits the road