 |
Sioe sleidiau '10,000 o flynyddoedd ar y Mosses'
Fis Tachwedd, fe fydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a English Nature yn trefnu pâr o sgyrsiau darluniadol rhad ac am ddim mewn trefi o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Fenn's, Whixall & Bettisfield Mosses, sydd ger yr Eglwys Wen a Wrecsam.
Eleni, mae'r sioe sleidiau newydd '10,000 o flynyddoedd ar y Mosses', yn canolbwyntio ar holl hanes y Mosses, o ffurfio'r dyffryn y maen nhw'n gorwedd ynddo yn ystod yr Oes Iâ diwethaf dros 12,000 o flynyddoedd yn ôl, ymlaen at ddarganfod anifeiliaid di—asgwrn—cefn newydd a phrin eleni sydd wedi ymddangos gan fod y Mosses yn cael eu hadfer i achub anifeiliaid a phlanhigion y gyforgors.
Bydd y math o greaduriaid a oedd yn byw yn y Moss ar wahanol adegau yn y gorffennol yn cael eu dangos, yn ogystal â sleidiau o gyrff y gors. Mae mwy o gyrff wedi eu darganfod yn Whixall Moss nag yn unrhyw gors arall ym Mhrydain. Fe fydd coed derw 8000 oed a choed pinwydd 3400 oed i'w gweld ochr yn ochr â cherrig a luchiwyd â ffon dafl ac a gollwyd ar y fawnog gan helwyr cynhanesyddol filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Fe ymledodd y gors dros y wlad a oedd yn ei hamgylchynu, gan lyncu'r coedwigoedd, hyd nes i ddyn, mor ddiweddar yn hanes y gors, ddechrau creu difrod wrth ddraenio'r Mosses ar gyfer cludiant, amaethyddiaeth, coedwigaeth a thorri mawn, a dilynir hynt a helynt hyn oll yn ystod y sgyrsiau.
Yng nghanol y 1990au, ymwelodd Archeolegwyr Cyngor Sir Clwyd ac English Nature â'r lle gan gyfweld llawer o deuluoedd lleol a oedd wedi torri'r mawn ar y Moss. Caiff llawer o ffotograffau a roddwyd gan bobl leol eu dangos, yn ogystal â ffotograffau o'r cwmnïau masnachol. Hefyd, caiff rhai o'r hen offer torri mawn eu dangos, yn ogystal â'r hen draddodiad o greu torch gelyn.
Ac yn olaf, bydd y dasg o achub y Mosses er lles cadwraeth natur — rhywbeth a roddwyd ar waith gan y Cyngor Cefn Gwlad a English Nature ar ôl sylweddoli bod cyforgorsydd yn prinhau — yn cael ei amlinellu, a chaiff rhywfaint o'r byd natur rhyfeddol y gallwch ei weld petaech yn dod i'r Mosses heddiw ei ddangos.
Fe fydd y sgyrsiau yn rhyw fath o barhad i nifer o deithiau cerdded a digwyddiadau yn y Warchodfa Natur Genedlaethol, sydd â'r bwriad o gyflwyno pobl i fywyd gwyllt a thirwedd arbennig y gors.
Caiff y sioeau sleidiau eu cynnal mewn trefi o gwmpas y Warchodfa ar y dyddiadau canlynol:
Ystafell Edward German
Canolfan Ddinesig yr Eglwys Wen
Ddydd Mercher
9 Tachwedd, 7.30 yp
Senior Club
Chapel Street, Wem
Ddydd Mercher 23 Tachwedd, 7.30 yp
Fe fydd y sgyrsiau yn para oddeutu awr a hanner ac maen nhw'n rhad ac am ddim. Yna, bydd lluniaeth am ddim i'w gael. Mae croeso cynnes i bawb. Nid oes angen sicrhau lle ymlaen llaw.
Dywedodd Rheolwr y Safle
Dr Joan Daniels:
'Bydd yn gyfle da i bobl leol ddysgu mwy am hanes cyfareddol y Mosses a bywyd gwyllt rhyfeddol y Warchodfa Natur Genedlaethol a'r hyn y mae'r Cyngor Cefn Gwlad a English Nature yn ei wneud i'w achub. Mae rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau'n ymwneud â'r Warchodfa Natur Genedlaethol i'w chael, a gellir parcio ceir yn y Warchodfa Natur yn Morris's Bridge a Roundthorn Bridge yn Whixall. Oddi yma, gall pobl ddilyn Llwybrau'r Mosses, os ydyn nhw'n dymuno cael tro bach ar ôl iddyn nhw fynychu un o'r sgyrsiau.
Erbyn hyn, rydym yn gwybod llawer am hanes, traddodiadau a bywyd gwyllt y Mosses, ac mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ni ddweud wrth bobl amdanynt. Rydw i'n gobeithio y bydd y sgyrsiau yma'n gwneud i bobl leol fod yn haeddiannol falch o'r Mosses sydd, wrth gwrs, o bwysigrwydd rhyngwladol.'
A boswyd: 3 Tachwedd 2005
Am ragor o fanylion ynglŵn â lleoliadau neu ddigwyddiadau eraill:
Dr Joan Daniels, Countryside Council for Wales
Ffôn: 01948 880 362
Mobile: 07974 784 799
joan.daniels@english—nature.org.uk
Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth neu gyfleoedd i dynnu lluniau cysylltwch â:
Dr Joan Daniels, Countryside Council for Wales
Ffôn: 01948 880 362
Mobile: 07974 784 799
joan.daniels@english—nature.org.uk
I gael mwy o wybodaeth am y Cyngor Cefn Gwlad neu gyfweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â:
Trystan Pritchard, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus
Ffôn: 029 2044 4604
Mobile: 07881 857 736
Cynghorwr annibynnol y llywodraeth yw'r Cyngor Cefn Gwlad, ac mae'n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori'r amgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar: www.ccw.gov.uk
English Nature yw cynghorwr statudol y Llywodraeth ar warchod natur yn Lloegr ac mae'n hybu cadwraeth byd natur a nodweddion naturiol Lloegr: www.english—nature.org.uk
|
 |