Celf Gyhoeddus drwy'r lens
Mae Agored i Gelf, a gynhelir ar y 28ain o Dachwedd yn gynllun sydd a'r bwriad i ddathlu holl agweddau celf gyhoeddus yng Nghymru sydd hefyd yn cyd-daro gyda lansiad enw a hunaniaeth y sefydliad newydd dros gelf gyhoeddus yng Nghymru.
Fel rhan o ddathliadau Agored i Gelf, mae fforwm ffotograffiaeth ar-lein wedi ei lansio heddiw mewn cydweithrediad â chynllun Big Art Mob Channel 4 — rhan o Big Art Project Channel 4 — cynllun sydd eisoes wedi ennill gwobrau. Gofynnir i ffotograffwyr amatur ledled Cymru a thu hwnt i ategu eu lluniau o'u hoff ddarnau o gelf gyhoeddus yng Nghymru i'r fforwm sydd ar wefan Big Art Mob — www.bigartmob.com/blog/agored_i_gelf. I anfon eich post i'r grŵp, naill ai e-bostiwch agored_i_gelf@bigartmob.com neu dros MMS gyda'r allweddair .Celf. ar ddechrau'r neges i 07786 200 549.
Fe ddewisir y delweddau gorau gan banel o arbenigwyr celf gyhoeddus nodedig, ac fe'u cyhoeddir ar ddydd Mercher'r 28ain o Dachwedd, ac yn cael eu harddangos ar wefan y sefydliad newydd pan lansir y wefan ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Wiard Sterk, Prif Weithredwr y sefydliad newydd:
'Wrth lansio'r fforwm ffotograffiaeth ar y fforwm ar y cyd gyda'r Big Art Mob a Channel 4, gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i feddwl am y gelf gyhoeddus o'u cwmpas a chreu delwedd o'u hoff ddarn celf er mwyn i bawb gael ei weld.
Bwriad Agored i Gelf yw annog pobl ledled Cymru i feddwl am gelf gyhoeddus ac i drafod a chysylltu â ni er mwyn i ni fedru creu strategaeth newydd i gyfarfod anghenion cymunedau dros Gymru gyfan.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar y cyd gyda Channel 4 ar y Big Art Project yn Aberteifi ar waith celf cyffroes iawn ar gyfer y dref — ac mae'r diddordeb sydd wedi ei fynegi fan drigolion y dref wedi bod yn galonogol iawn yn barod.
Ni allaf ddatgelu'r enw ar y sefydliad newydd a fydd yn cymryd lle Celf Gyhoeddus Cymru eto, ond un o'n hamcanion craidd fydd cynnwys pobl ledled Cymru yn y drafodaeth ar sut i hawlio lle amlwg i gelf gyhoeddus yn ein cymdeithas. Mae celf gyhoeddus yn golygu llawer mwy na datganiad ffisegol oherwydd mae ganddo rôl allweddol wrth weithredu adfywiad economaidd llwyddiannus yng Nghymru. Hebddo mae datblygiadau a gofodau agored yn amddifad o gymeriad ac ysbrydoliaeth ac fe fyddem yn genedl lawer tlotach boed yn ddiwylliannol ac yn economaidd o'r herwydd.'
Ategodd Nick Pearson, Rheolwr prosiect gwefan y Big Art Project:
'Mae Agored i Gelf yn fenter hynod gyffroes a'n gobaith yw y bydd pobl ledled Cymru yn ymuno â grŵp Agored i Gelf ar Big Art Mob Channel 4 ac i wneud beth yr hoffent ohono, nid yn unig drwy gyfrwng delweddau, ond hefyd yn wybodaeth ar y gwaith celf a dolen i fap Google. Gellir ategu sylwadau i'r delweddau o'r gwaith celf gan unrhyw un sydd wedi cofrestru fel blogiwr ar wefan y Big Art Mob. Mae hyn i gyd yn hybu diddordeb ac ymrwymiad i gelf gyhoeddus. Yn ogystal mae rhai trafodaethau a rhyngweithio hynod ddiddorol wedi tyfu mewn modd organig iawn drwy wefan y Big Art Mob.'
DIWEDD
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen yng Nghwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Cambrensis ar 029 2025 7075.
Am fwy o wybodaeth y Big Art Project a'r safle yn Aberteifi ewch i www.channel4.com/bigart
|