Cambrensis yn rhedeg fel y gwynt
Ymunodd Gwenan a Lleucu â miloedd o ferched ar draws Cymru yn ddiweddar er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian i Cancer Research UK wrth gwblhau'r ras flynyddol 5km ‘Race For Life’.
Llwyddodd Gwenan a Lleucu i groesi'r llinell derfyn ar ddau begwn gwahanol y wlad gyda Gwenan yn rhedeg ar hyd afon Menai, Caernarfon ym mis Mai a Lleucu ym Mharc Biwt, Caerdydd ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Lleucu
‘Roedd y Race for Life yn dda iawn. Mae’n ddigwyddiad sy’n dod a merched gyda'i gilydd i gael hwyl, codi arian i guro cancr tra’n gadw’n heini'r un pryd.’
Dywedodd Gwenan
‘Mae rhedeg at achos mor dda yn eich gwneud chi’n fwy penderfynol i barhau i redeg pan mae’r llinell derfyn yn edrych mor bell i ffwrdd. Mae’r Race For Life hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gwrdd â’r genod i gael hwyl ac i fwynhau diwrnod gwych.’
Da iawn chi!
|