cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Criw Cambrensis yn profi cyffro'r cerrynt!

Anghofiwch am lifoedd tymhestlog Colorado; mae gan Gymru fwy na digon i'w gynnig os ydych chi am ganfod ewyn gwyn eithriadol!

Wrth weithio drwy haf llawn digwyddiadau, roedd gofyn cael rhywbeth i edrych ymlaen ato. Ymlacio oedd un awgrym, ond rafftio oedd yr ateb mwyaf poblogaidd am ryw reswm! Felly fe lithrodd Rhodri, Gwen, Lleucu, Osian a Gwenan mewn i'w gwisgoedd gwlyb a'u helmedau yng Nghanolfan Genedlaethol Rafftio Tryweryn, ger y Bala, gan wlychu o'u corun i'w sawdl wrth frwydro'r ceryntau cryfion!

Meddai Rhodri Ellis Owen, Cadeirydd Cambrensis:

'Gyda dwy swyddfa, un yng Nghaerdydd a'r llall yng Nghaernarfon, roeddem yn credu ei fod yn syniad da i ddod a phawb at ei gilydd am ddiwrnod llawn cyffro yn yr awyr agored. Fe gawsom ni amser gwych, ac er mawr syndod… rydym ni gyd dal yma i adrodd yr hanes!! Fe fwynhaom ni'r profiad cymaint, rydym yn ystyried cofrestru'r tîm ar gyfer gemau Olympaidd 2008… unwaith y bydd Osian wedi dysgu ei law dde o'i law chwith.'

 

*
rafftio
*
rafftio
*