codi pac!
Da ni wedi symud
nid unwaith
ond dwywaith! Mae ein swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon wedi symud i leoliadau newydd.
Mae'r pencadlys yng Nghaerdydd wedi codi pac o Stryd Bute yn y bae i ardal ddeiliog Romilly Crescent yn Nhreganna, rhif 7 i fod yn fanwl gywir, tra bod golygfa hyfryd o'r Fenai a mwy o le i feddwl yn greadigol yn uned newydd C2, Galeri, Caernarfon.
Os ydych chi'n digwydd pasio, galwch draw am sbec!
Am ragor o wybodaeth:
Cambrensis Caerdydd
Rhodri Ellis Owen, 029 2025 7075
Cambrensis Caernarfon
Gwen Siôn, 01286 685 254
|