cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

rhacsun sam snape

Mae Wynford Ellis Owen, yr actor, sgwennwr ac awdur – sydd wedi gweithio'n helaeth i Cambrensis Communications Cyf dros y blynyddoedd — wedi ennill comisiwn i sgwennu cyfres gomedi newydd mewn chwe rhan, Rhacsun Sam Snape, i BBC Radio Cymru.

Bydd Rhacsun Sam Snape yn dilyn Sam wrth iddo ymddeol fel golygydd nos ar bapur newydd y Sun yn Wapping i'w dref enedigol, Tre Wynfa, ar gyrion Caerdydd, prifddinas Cymru.

Bydd y gyfres yn cael ei recordio ym mis Medi ac yn barod i'w darlledu ar BBC Radio Cymru o Hydref 2006 ymlaen.

Actorion o fri: Yn actio yn y gyfres bydd John Pierce Jones, Rhian Morgan, Wynford Ellis Owen, Dafydd Emyr, Lisa Palfrey, Rhodri Meilir ac un gwestai arbennig bob wythnos.


A bostwyd: 12 Mehefin 2006

*

Am wybodaeth bellach neu luniau, cysylltwch â:

www.wynfordellisowen.com
www.thesacredillness.com


*
Wynford Ellis Owen
*