cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Celf Gyhoeddus drwy'r lens

Datgelwyd yr enw a'r brandio newydd ar gyfer y sefydliad sydd yn gyfrifol am gelf gyhoeddus yng Nghymru drwy dafluniad dramatig o'r logo ar un o dirnodau cyhoeddus amlycaf Bae Caerdydd — y Tŵr Dŵr, ger Canolfan y Mileniwm Cymru. Yr enw a ddewiswyd ar gyfer y sefydliad yw Safle.

Meddai Wiard Sterk, Cyfarwyddydd Weithredol Safle:

'Rydym eisiau gweld celf gyhoeddus yn hawlio ei le teilwng yng ngofodau cyhoeddus Cymru.

Mae'r enw newydd yn adlewyrchu'r amcan yma ac yn cyfleu'r syniad o naws am le — rhywbeth yr ydym yn teimlo gall gael ei gyflawni'n llwyddiannus drwy osod gweithiau celf gyhoeddus mewn cyd-destun trefol. Hebddo mae datblygiadau a gofodau agored yn amddifad o gymeriad ac ysbrydoliaeth ac fe fyddem yn genedl lawer tlotach boed yn ddiwylliannol ac yn economaidd o'r herwydd.'

Mae'r brandio ei hun yn felyn llachar, gyda llinellau du yn croesi ar ei draws sydd yn tynnu'r sylw tuag at y canol, gan gynrychioli canolbwynt yr un sylw a ffocws a hawlir gan gelf gyhoeddus o fewn cynlluniau dylunio pensaernïol. Comisiynwyd yr asiantaeth fyd-ewnog Bureau for Visual Affairs i greu'r brandio a'r enw yn ogystal â'r wefan a deunydd argraffedig ar gyfer y corff newydd.

Dynoda enw'r sefydliad newydd gwblhad cydsoddiad rhwng dau o sefydliadau mwyaf blaenllaw celf gyhoeddus yng Nghymru, CBAT yr asiantaeth gelf ac adfywiad a Cywaith Cymru — Artwork Wales, sydd wedi bod yn gweithredu dros dro o dan yr enw Celf Cyhoeddus Cymru. Ariannwyd y cydsoddiad yma gyda chymorth grant Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wnaeth hefyd hwyluso'r prosiect.

Dywed Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau Cymru:

'Cyngor Celfyddydau Cymru wnaeth hwyluso a darparu'r grant er mwyn creu'r sefydliad celf gyhoeddus a chredwn y bydd yn cynnig cyfle i hyrwyddo'r rôl sylfaenol sydd gan gelf gyhoeddus i'w chwarae wrth wella ein tirluniau trefol a gwledig. Fe fydd hefyd yn chwarae rôl flaenllaw yn y modd y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn anelu i wneud celf yn fwy hygyrch i holl bobl Cymru. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi gweithio fel rhan o'r prosiect i greu a datblygu'r sefydliad newydd.'

Dywedodd Simon Piehl, o'r Bureau for Visual Affairs:

'Mae hunaniaeth Safle yn seiliedig ar un agwedd neu amcan craidd, a hynny yw gwneud celf gyhoeddus yn fwy hygyrch — drwy ei wneud yn fwy cyffyrddadwy, dealladwy ac agored.'

Mae'r defnydd o 'X' yn symbylu'r syniad o leoliad — ac fe'i defnyddir i ddynodi safle'r gwaith celf yn y gofod cyhoeddus, hyd yn oed cyn iddo gael ei greu. Mae'r gelf yn ymwybodol o'i amgylchedd, yn wir fe'i comisiynwyd ar ei gyfer — felly mae lleoliad yn holl bwysig.

Dynoda praffter arddull yr hunaniaeth hunan hyder y corff newydd, a'i fwriad i wneud datganiad gweledol, a chael ei weld fel cysylltydd rhwng byd y cyhoedd a chelfyddyd gyfoes. Mae'r safiad grymus yma yn golygu fod y sefydliad yn agored i drafod ac i gael ei gwestiynu — nid yw, fel galeri er enghraifft, ond yn ofod gweladwy.

Mae melyn yn lliw ag iddo naws gyhoeddus ac agored — ac fe'i defnyddir fel arwydd yn y gofod cyhoeddus, felly mae ei rôl yn y cyd-destun yma yn addas iawn. Mae hefyd yn lliw positif ac uniongyrchol, heb fod yn ffwdanus — yn ddi-dor ac egnïol.'

Fe fydd lansio'r brand newydd hefyd yn cyd-fynd gydag Agored i Gelf — cynllun sydd yn bwriadu dathlu holl agweddau celf gyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn annog pobl o bob cwr o Gymru i feddwl am gelf gyhoeddus ac i drafod cysylltu gyda Safle i lunio strategaethau a fydd yn addas i gymunedau ledled Cymru.

Fe fydd digwyddiadau Agored i Gelf yn cynnwys fforwm ffotograffiaeth o dirnodau celf ar-lein mewn cydweithrediad â menter Big Art Mob, sydd yn rhan o Big Art Project Channel 4, prosiectau ysgolion a datguddio gwaith celf newydd yn Aberafan a Chaerdydd.

Dynoda'r enw newydd ar y sefydliad gwblhad y cydsoddiad rhwng dau o brif sefydliadau celfyddyd gyhoeddus Cymru, sef, CBAT, yr asiantaeth gelf ac adfywiad a Cywaith Cymru — Artwork Wales, sydd wedi bod yn gweithredu o dan yr enw dros dro, Public Art Wales.

Ategodd Wiard Sterk:

'Un o amcanion craidd Safle yw cysylltu â phobl ar draws Cymru ac i wneud celf gyhoeddus yn gysyniad amlwg o fewn y gymdeithas sydd ohoni. Mae celf gyhoeddus yn golygu llawer mwy na datganiad ffisegol oherwydd mae ganddo rôl allweddol wrth weithredu adfywiad economaidd llwyddiannus yng Nghymru.

Mae gennym amryw o brosiectau cyffroes ar y gweill o amgylch y wlad — o brosiect y Big Art yn Aberteifi, Canolfan Bywyd Gwledig Y Bala, i'r cynllun celf gyhoeddus yn Aberafan a phrosiectau ysgolion yng Nghaergybi ac Abertawe. Rydym yn benderfynol o weithio gydag artistiaid a chymunedau ledled Cymru er mwyn cyfoethogi ein comisiynau celf gyhoeddus, fydd yn fuddiol i'r genhedlaeth hon ac i'r cenedlaethau sydd i ddod.'

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Y Gweinidog dros Dreftadaeth:

'Drwy ddefnydd brandio deinamig, mae Safle yn gwneud datganiad cryf dros ei hun a chelf gyhoeddus yng Nghymru. Mae'r corff newydd yn hawlio lle i gelf gyhoeddus yn y Gymru gyfoes, a lle sydd yn sicr o gyfoethogi Cymru yn nhermau diwylliannol.

Mae celf gyhoeddus wedi dangos rôl mor allweddol sydd ganddo wrth adfywio cymunedau. Gweler y Tŵr Dŵr ym Mae Caerdydd a ddyluniwyd gan Nicholas Hare Architects ar y cyd â'r cerflunydd William Pye yn 2000, fel esiampl wych o bwynt ffocws i ymwelwyr i'r Bae. Mae'n ysbrydoli ac yn cyfareddu pobl o bob cefndir ac oedran.

Mae gan gelf gyhoeddus rôl allweddol wrth adfywio gofodau cyhoeddus yng Nghymru. Wrth i Safle gael ei lansio, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r sefydliad, wrth iddo gyfrannu at adeiladu Cymru ddeinamig a chryf, drwy ddefnydd ysbrydoledig a chreadigol o gelf gyhoeddus.'

DIWEDD

Am wybodaeth pellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen yn ngmwni cysylltiadau cyhoeddus Cambrensis ar 029 2025 7075 rhodri@cambrensis.uk.com

 

*
Safle
*