tîm bach yn ennill gwobr mawr!
Cafodd cwmni cyfathrebu Cambrensis Cyf ei enwi'n Dîm Cysylltiadau Cyhoeddus Bychan Gorau Cymru yn ystod noson wobrwyo PRide yng ngwesty'r Angel yng Nghaerdydd.
Trefnwyd y noson gan yr 'Institute of Public Relations' gyda chefnogaeth y cylchgrawn PR Week. Roedd y noson wobrwyo yn adlewyrchu ac yn gwobrwyo y gorau ym myd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghymru ac yn cofnodi ymdrechion o'r safon uchaf. Roedd canllawiau'r beirniaid yn llym a panel o'r Alban benderfynodd mae Cambrensis aeth a hi yng nghategori y tîm bychan.
Dyweddod Colin Farrington, Uwch Gyfarwyddwr
yr IPR:
'Mae'r gwobrau wedi eu creu er mwyn codi safonau'r diwydiant ac er mwy rhoi cyfle i gydweithwyr rannu profiadau. Roedd answadd y ceisiadau yn hynod o uchel eleni, yn adlewyrchu arloesedd ac egni'r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus. Mae ennill gwobr yn deilyngdod gwerth chweil ac mae'n rhaid llongyfarch Cambrensis ar eu llwyddiant.'
Rhodri Ellis Owen, Cadeirydd
Cambrensis:
'Mae hwn yn anrhydedd arbennig i ni fel cwmni ac yn deilyngdod i'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan y tîm byth a beunydd ar ran ein cleientiaid.'
A bostwyd: 18 Tachwedd 2004
Am ragor o wybodaeth:
Rhodri Ellis Owen
Ffôn: 029 2025 707
rhodri@cambrensis.uk.com
Gwen Siôn, Cambrensis
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com
|