Cyfle i ddisgleirio Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gofal Cymdeithasol
Heddiw, ar ddydd Iau'r 21ain o Fehefin, mewn seremoni ddisglair yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd - cafodd naw gwobr gofal cymdeithasol eu cyflwyno i enillwyr haeddiannol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC. Cyflwynwyd y gwobrau o flaen cynulleidfa o oddeutu 200 o gynrychiolwyr ymarfer da yn y sector addysg a datblygu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gwobrwywyd enillwyr saith categori a chynrychiolwyd yr enillwyr gan sefydliadau statudol, preifat a gwirfoddol yn ogystal a cholegau ledled Cymru sydd wedi dangos cryn fuddsoddiad mewn addysg a datblygiad staff er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i'r bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Enillwyr eleni ydi:
Arwain ar Ddysgu
Coleg Sir Gâr - Prosiect Gofal Cymdeithasol Mentrau Bach a Chanolig
Cynnig Cyfle, newid cyfleoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent — Marchnad Llafur Dros Dro
Dysgu am ofalu, gofalu am ddysgu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful — Cynllun Cefnogi Cyflogaeth i Ieuenctid Merthyr Tudful
Cyfrannu i'r gymuned
Prosiect Caredig Mewn Meddwl
Enillwyr ar y cyd — Bod yn sefydliad sy'n dysgu
NCH Cymru — Clybiau bach Bro Morgannwg
Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru - O'r Tu Allan i Fewn: Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau a Chynhalwyr yn NEWI
Buddsoddi yn y gweithlu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf — Cynllun Dysgu a Datblygu i Fyfyrwyr RCT
Dysgu gyda'n gilydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf — Cynllun Pobl dan hyfforddiant
Gwobr Gydnabyddiaeth Arbennig - Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion
Buddsoddi mewn Gofalwyr Ceredigion: Cynllun Tystysgrif Practis Meddygon Teulu
Cafodd y Gwobrau eu sefydlu yn 2005 er mwyn cydnabod a dathlu gwaith da o fewn y sector gofal cymdeithasol. Caiff y gwobrau eu rhedeg fel partneriaeth rhwng saith sefydliad o fewn y sector gofal cymdeithasol. 'Dysgu a Datblygu yng Ngofal Cymdeithasol' gafodd ei ddewis fel thema 2007 oherwydd ei rôl flaenllaw y mae'n ei chwarae wrth wella ymarfer a safon gwasanaethau o fewn y sector. Fe fydd y Gwobrau Gofal Cymdeithasol yn ddiwedd i ddathliad Wythnos Gofal Cymdeithasol gyntaf Cymru sy'n codi ymwybyddiaeth i'r gwaith ardderchog sydd yn cael ei wneud yn feunyddiol.
Dywedodd Mutale Nyoni, Cadeirydd y Cyngor Gofal:
'Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill gwobr heddiw. Dydy ennill un o'r gwobrau yma ddim yn hawdd - yn enwedig wrth ystyried safon uchel y ceisiadau eleni. Mae hyn yn newyddion gwych i'r sector yn ogystal â'r bobl hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau y gweithwyr sy'n gweithio o fewn y sector gofal cymdeithasol.
Dyw'r sefydliadau hynny na enillodd wobr yn gadael yn waglaw chwaith. Dylai'r sefydliadau yma fod yn falch iawn o'u cyraeddiadau, a dros y flwyddyn sydd i ddod fe fyddwn yn gweithio gyda'r enillwyr a'r sefydliadau a gyrhaeddodd y rownd derfynol er mwyn trefnu gweithdai i sicrhau fod y gwaith da a ddaeth i amlygrwydd yn ddiweddar o ganlyniad i'r Gwobrau yn cael ei rhannu ledled Cymru.
Hoffwn ddiolch y timau, grwpiau a'r sefydliadau hynny a gymerodd yr amser a'r ymdrech i fwrw cais am wobr eleni. Roedd y beirniaid wedi eu plesio'n arw gyda'r holl sefydliadau a gyrhaeddodd y rhestr fer - a hynny am y safonau uchel o ddysgu a ddangoswyd a gobeithiaf y bydd llawer mwy yn cael eu hannog i fwrw cais eto yn 2009.'
DIWEDD
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yng Cwmni Cysylltiadau Cambrensis ar 029 2025 7075.
Nodiadau i'r Golygydd
Mae'r Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2007 yn cael eu rhedeg gan saith sefydliad sydd yn hanu o ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru gan gynnwys Cyngor Gofal Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol, Fforwm Gofal Cymru, Arolygiaeth Safonau Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru.
|