cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
newyddion diweddaraf

Time Team yn datguddio tystiolaeth newydd yng Nghaerwent

Carn cyllell wedi ei wneud o asgwrn â darlun o ddau gladiator yn ymladd, baddondy, fila a siopau - swnio fel rhywbeth o Roman Holiday? Wel dyma yn union y darganfuwyd yn Nhref Rufeinig Caerwent, ger Cas-gwent wythnos yma pan fu rhaglen boblogaidd Channel 4, Time Team yn ymweld i geisio darganfod mwy am olion beth a fu’n ganolfan poblogaeth sifil fwyaf Cymru yn Oes y Rhufeiniaid. Tony Robinson sy’n cyflwyno'r rhaglen a darlledir y bennod hon ar ddechrau 2009.

Caniataodd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru, gamerâu ar y safle Rhufeinig am y cloddio archaeoleg tri diwrnod gafodd ei arwain gan dîm o fwy nap um deg o bobl gan gynnwys y prif archeolegwr Yr Athro Mick Aston, Phil Harding ac aelodau Wessex Archaeology a gwirfoddolwyr o Gymdeithas Archaeoleg Cas-gwent.

Bwriad y cloddiadau, lle cafodd saith gwahanol ffos eu cloddio mewn tri lleoliad gwahanol, oedd gwybod mwy am rannau o’r dref oedd erioed wedi cael eu cloddio. O ddiddordeb penodol oedd dwy ardal - plot ger y stryd fawr yn agos i’r deml, y baddonau a’r fforwm yng nghanol y dref a phlot arall yng ngogledd orllewin y dref.

Cafwyd o hyd i adeiladau hir a thenau y credir i fod yn adeiladau siop ar y stryd fawr. Yng ngogledd y dref, credir mai fila Rufeinig sydd wedi cael ei ddadorchuddio oedd fwy na thebyg wedi cael waliau wedi’u peintio a mosäig ar y llawr yn dangos y bu pobl gyfoethog yn byw yn y maestrefi. Gerllaw, darganfuwyd baddondy oedd mwy na thebyg yn perthyn i’r fila.

Yn ogystal â’r gyllell fach wedi ei gerfio yn hardd, cafwyd o hyd i arteffactau eraill gan gynnwys ceiniogau, gwydr, ceramig, esgyrn dynol ac anifeiliaid, clytiau plwm i’w defnyddio i atgyweirio, crochenwaith a darnau mosäig. Nawr bod y cloddio ar ben, bydd archeolegwyr yn rhoi’r pridd nol i mewn i’r ddaear a gorchuddio'r waliau eto. Bydd y darganfyddiadau i gyd ym mynd at Amgueddfa Genedlaethol Cymru a bydd adroddiad archeolegol yn cael ei gyhoeddi.

Dywedodd Tony Robinson

‘Mae’n hyfryd i fod yma yng Nghaerwent. Mae’n safle diddorol iawn ac mae’n dipyn o beth i Time Team gael bod yma i gloddio achos ei fod yn safle treftadaeth arbennig ac yn rhan o flwch gemwaith Cadw.’

Ychwanegodd Tom Scott o Time Team

‘Roedd y safle yn apelio oherwydd ei fod yn un o’r trefi Rhufeinig sydd wedi ei gadw orau ym Mhrydain ac roedd hwn yn gyfle gwych i ni ddarganfod mwy amdano. Mae’r math yma o dref yn beth a elwir yn “civitas capital” ac yn un o bymtheg ym Mhrydain. Adeiladwyd trefi diweddarach ar ben llawer o rhain felly nid ydych yn gallu gweld waliau’r dref, ond mae Caerwent wedi ei gadw yn dda iawn. Mae’n ffantastig medru gweld waliau'r dref ar yr ochr dde - bron i bedwar metr o uchder - yn sicr y gorau yn y wlad. Mae’r safle dreftadaeth hon yn bwysig iawn a dyna pam mae e wedi ei ddiogelu.

‘Rydym wedi darganfod pethau diddorol iawn ac yn wreiddiol doedden ni ddim yn gwybod bod pobl yn byw dros y dre i gyd - yn enwedig yn y rhan gogledd ddwyrain - ond, wedi darganfod y fila a’r baddondy, mae’n debyg eu bod wedi byw yma… ac mewn steil!’

Dywedodd y cyflwynwr ac archeolegwr cae gyda Wessex Archaeology, Phil Harding

‘Mae’n dda cael bod nôl yng Nghaerwent. Roeddwn i yma ddiwethaf yn 1973 pan ddoedd dim gymaint o ddiddordeb mewn treftadaeth ag sy na heddiw ac mae’r safle wedi cael ei ddiogelu yn dda iawn gan Cadw.’

Dywedodd Rick Turner, Arolygwr Henebion Hynafol, Cadw

‘Mae cloddfa Time Team wedi gadael Cadw gyda chronfa o wybodaeth newydd fydd yn sicr o ychwanegu at beth rydym yn gwybod yn barod am hanes y dref Rufeinig ddiddorol yma.

‘Gyda Time Team, mae gennym y cyfle i rannu cyfoeth ein treftadaeth leol gyda’r genedl gyfan. Mi fydd yn helpu ni wrth hyrwyddo Tref Rufeinig Caerwent fel safle mawr o ddiddordeb hanesyddol lleol a hysbysu’r cyhoedd o’r angen i ddiogelu'r safle am genedlaethau i ddod.’

*
Time Team
*