Hanes gwleidyddiaeth Cymru ers 1945 gan un a fu yn ei chanol hi
Yr wythnos hon, cyhoeddir gan Gomer gyfrol sydd wedi cymryd pedair blynedd i’w hysgrifennu, ond dros hanner canrif i’w pharatoi. Y gyfrol yw Cynhaeaf Hanner Canrif gan yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, a rhwng y cloriau mae’r awdur yn mynd ati i grynhoi gwleidyddiaeth Cymru rhwng 1945 a 2005.
Mawr fu’r newidiadau yn y cyfnod hwn wrth reswm, ac mewn 180 o dudalennau mae Gwilym Prys Davies yn ymdrin yn bennaf â’r ddwy thema gyfochrog sydd wedi bod yn gyson drwy ei yrfa hir fel gwleidydd gwlatgarol, sef y frwydr dros sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a diogelu parhad ein hiaith genedlaethol drwy bwyso am statws cyfreithiol i’r Gymraeg.
Yr Arglwydd Prys Davies, brodor o Lanegryn, Sir Feirionnydd a chyfreithiwr wrth ei broffesiwn, oedd yr ymgeisydd Llafur a drechwyd gan Gwynfor Evans yn isetholiad Caerfyrddin 1966. Fe weithiodd yn ddiwyd dros Gymru drwy gydol ei yrfa wleidyddol ac fel un a chanddo wybodaeth bersonol o’r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni, yn enwedig o fewn y Blaid Lafur, mae’n pwyso a mesur ag awdurdod gyfraniad nifer o wleidyddion a gweision sifil dylanwadol y dydd – Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, J. Emrys Jones, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill – pobl yr oedd yn eu hadnabod yn dda, a rhai ohonynt yn gydweithwyr iddo.
Meddai’r golygydd, J. Elwyn Hughes
‘Mae Gwilym Prys Davies yn dadlennu sawl cyfrinach ddiddorol dros ben yn y gyfrol hon na chawsant erioed eu datgelu’n gyhoeddus o’r blaen. Mae hefyd yn dangos i ba raddau yr oedd ei berthynas o ag aelodau o bleidiau eraill yn allweddol bwysig mewn sawl cyfeiriad – er enghraifft, y cyfarfod rhyfeddol hwnnw a fu rhyngddo fo a Gwynfor Evans.’
Mae’r gyfrol hefyd yn gyfle i Gwilym Prys Davies roi sêl ei fendith ar ffurfio llywodraeth glymblaid Llafur/Plaid Cymru yn 2007
‘Fe’m blinid drwy gydol ymgyrchoedd yr hanner canrif gan y gwrthdrawiadau celyd a difäol yn rhengoedd radicalaidd Cymru; felly, datblygiad pwysig a chalonogol, yn 2007, oedd furfio llywodraeth glymblaid Llafur/Plaid Cymru ar lwyfan y Cynulliad yn seiliedig ar ddogfen bolisi Cymru’n Un (er ei geiriau amherffaith). Ffurfiwyd y glymblaid o ganlyniad i amgylchiadau gwleidyddol arbennig ac nid yw’n dilyn y bydd yr hen elyniaeth a fu mor ddinistriol yn diflannu. Ein gobaith yw y tyf parch, ysbryd cydweithredol a chymod parhaol rhyngddynt mewn llywodraeth. Ac os digwydd hynny, bydd o werth cyffredin difesur i Gymru.’
Mae’r awdur yn pwysleisio drwy gydol y gyfrol y llwybr anodd sydd i’w droedio ym myd gwleidyddiaeth rhwng cadw at egwyddorion a chyfaddawdu lle bo hynny’n ddilys.
Ychwanega J. Elwyn Hughes
‘Beth yr ydych yn ei gael gan Gwilym Prys Davies yn y gyfrol hon yw gwybodaeth o lygad y ffynnon – gwybodaeth gan ?r a oedd yn yr union fan a lle – yn sylwebydd o’r tu mewn ond yn gallu edrych o’r tu allan, yn wrthrychol ac yn deg iawn.’ Dyma rai o sylwadau Gwilym Prys Davies o’r llyfr ar rai o fawrion y Blaid Lafur yng Nghymru...
Ar John Morris....
‘Dros gyfnod o ddeugain mlynedd ar y Fainc Flaen, gweithredwr gwleidyddol ydoedd o ran ei anian, g?r a nodweddid gan ymroddiad pwrpasol a phenderfyniad i gyflawni amcan pan oedd amodau'n caniatáu. Heb iddo gael y cyfle i weithredu’n gadarnhaol, ni fynnai ymhél yn llwyr â gwleidyddiaeth gan dueddu i gilio’n ôl at ei waith ar y Bar. Mentraf awgrymu mai’r elfen hon yn ei gymeriad yw cryfder pennaf John Morris, mewn un ystyr, a hanfod y llwyddiant a ddaeth i’w ran.’
Ar Goronwy O. Roberts...
‘Bydd Goronwy Roberts yn haeddiannol enwog am ffurfio’r Mudiad Gwerin, er na ddaeth dim ohono pan ddaeth y Rhyfel i chwalu’r aelodau. Rhaid diolch am y ‘Rhaglen i Gymru’, am y ‘Portreadau’ gwerthfawr...ac am ei waith blaenllaw ar hyd y blynyddoedd yn agor clust y Mudiad Llafur yng Nghymru i’r achos deallusol dros bolisïau Cymreig. Nid oedd modd gwybod bryd hynny fod ei strategaeth ganolog o Gymreigio’r Blaid Lafur yng Nghymru yn un y gellid ei gwireddu. Ond fe’i gwireddwyd.’
Ar Jim Griffiths....
‘Ni chredaf y byddwn ymhell o’m lle trwy honni mai [Jim Griffiths] fu’r gwladweinydd Cymraeg amlycaf a mwyaf dylanwadol yn hanes y Blaid Lafur hyd yn hyn. Ac anodd meddwl am neb a allai fod wedi rhoi i Gymru yr arweiniad a roes ef yng nghyfnod olaf ei fywyd.’
Ar Cledwyn Hughes....
‘Rhadlonrwydd, cydbwysedd, goddefgarwch, dyfalbarhad, agosatrwydd gwerinol, rhyw gymaint o gyfrwystra gwleidyddol – ynghyd â hiwmor bob amser – dyna nodweddion neilltuol Cledwyn Hughes.’
Ar George Thomas....
‘Bu’n gymwynaswr â’r gwan a’r anghenus a’r oedrannus a’r methedig. Ac eto, er cystal yr holl weithgarwch daionus hwn, medrai’r funud nesaf droi i fod yn ddyn bychan a milain. Hawdd iawn oedd pechu yn ei erbyn - ac ni faddeuai’n hawdd i’r rhai a droseddodd yn ei erbyn. Roedd yn deyrngar i’r carn ac yn was bach i Wilson. Roedd yn elyn milain i’r cenedlaetholwyr Cymreig ac yn wrthwynebydd ffyrnig i bob amlygiad o ddeffroad yr ymwybod cenedlaethol yng Nghymru. Tueddwyd i’w gymryd yn llawer rhy ysgafn gan ei gyd-wleidyddion. Camgymeriad oedd hynny. Roedd yn wleidydd medrus a chanddo gyfrwystra’r cadno.’
Ar Ron Davies....
‘Mor rhyfedd, mor ddyrys, yw bywyd. Os bu Rhagluniaeth yn garedig wrth Ron Davies ar y deunawfed o Fedi 1997, eto ymhen blwyddyn, ac yntau yn awr anterth ei nerth, bu ffawd yn ddidostur wrtho. Yn sydyn, ar noson 26 Hydref 1998, daeth argyfwng yn ei fywyd personol...Sut y medrai ‘eiliad o wallgofrwydd’ ddinistrio mor llwyr? Gwelwyd ei golli. Ni all neb ohonom wybod a fyddai Ron Davies wedi aros yr un dyn yn y swydd. Ond mae ei record fel Ysgrifennydd Cymru, fel Llefarydd ar faterion Cymreig, y berthynas ragorol a fu rhyngddo a Dafydd Wigley, ei agwedd gadarnhaol tuag at anghenion y Gymraeg a’r dystiolaeth ei fod yn coleddu’r egwyddor weriniaethol, i gyd yn argoeli y gallasai fod yn arweinydd eofn a radical mewn cyfnod allweddol yn hanes ein cenedl.’
Cynhaeaf Hanner Canrif
Gwilym Prys Davies
ISBN: 9 781843 239420
Clawr Meddal
Gwasg Gomer
£8.99
|