cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

galwad gan y cyhoedd: 'i ystryried troseddau bywyd gwyllt o ddifrif'

Dylai asiantaethau ystyried troseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt yn fwy difrifol — dyna ddywedodd 90% o'r rhai a holwyd mewn arlowg ffôn gan y Cyngor Cefn Gwlad. Bydd y darganfyddiad yma'n cael ei gyflwyno i gynrychiolwyr yn y Gynhadledd Troseddau Bywyd Gwyllt heddiw Dydd Llun, 14 Tachwedd 2005.

Wrth agor y gynhadledd, fe fydd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, yn herio'r cynrychiolwyr, gan gynnwys uwch—swyddogion yr heddlu ac erlynwyr y goron, i ystyried sut mae'r cyhoedd yn pwyso a mesur ein gwaith.

Meddai Alun Ffred Jones, Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad:

'Yn y dyfodol agos, fe fydd gan Lywodraeth y Cynulliad bwerau newydd i ddelio efo troseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt. Yn y Gynhadledd yma, rydw i'n gobeithio y bydd ymarferwyr yn dweud wrthym pa ddeddfau gwahanol neu newydd a fyddai'n eu helpu i weithio'n fwy effeithiol.'

Bydd y gynhadledd, a gaiff ei chadeirio ar y cyd gan Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, yn cael clywed am lwyddiannau ym maes gorfodi deddfau bywyd gwyllt. Fe fydd y themâu'n amrywiol iawn:

Gweithio â'r cyfryngau
Steve Freer, BBC

Menter Crimewatch
Lindsey Meek, Asiantaeth yr Amgylchedd

Safleoedd, rhywogaethau a'r broses gynllunio
Steve Moon, Association of Local Government Ecologists

Safbwynt datblygwyr
Tom Anwyl, Anwyl Construction

Ychwanegodd Roger Thomas
Prif Weithredwr y Cyngor Cefn Gwlad:

'Mae yna waith rhagorol yn cael ei wneud o amgylch Cymru. Mae cynadleddau sydd wedi eu cynnal yn y gorffennol wedi dangos i ni bod rhwydweithiau cadarn wedi cael eu sefydlu a bod asiantaethau'n rhannu gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau niweidiol troseddau bywyd gwyllt a sut i ddelio'n well â nhw.

Yn y pen draw, mae'r rhwydweithiau yma'n cyfrannu'n sylweddol at warchod a chyfoethogi cynefinoedd a bywyd gwyllt cyfoethog Cymru. Yn wir, mae yna lwyddiannau lu i'w cael, ac yn eu plith menter i atal tywallt sbwriel yn anghyfreithlon, ffordd o nodi blaenoriaethau cadwraethol, a fforwm newydd i atal tanau gwrthgymdeithasol yng nghefn gwlad.

Dyma pam yr ydw i'n gwbl gefnogol i'r rhan y mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn ei chwarae wrth drefnu'r gynhadledd yma.'


A bostwyd: 10 Tachwedd 2005

*

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Meinir Wigley, Uwch—swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus
Cyngor Cefn Gwlad
Symudol: 07720 428 644

Gillian Bilsborough, Uwch—swyddog Diogelu Rhywogaethau y Cyngor Cefn Gwlad
Symudol: 07775 507 550

*

Nodiadau i olygyddion:

Mae'r bumed gynhadledd yn ymwneud â throseddau amgylcheddol a bywyd gwyllt yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Celtic Royal, Caernarfon

Caiff y gynhadledd ei threfnu eleni gan y Cyngor Cefn Gwlad a Heddlu Gogledd Cymru.

Uned Ymholiadau'r Cyngor Cefn Gwlad a aeth ati i gynnal yr arolwg ffôn. Roedd sampl yr arolwg yn cynnwys 100 o bobl.

Cynghorwr annibynnol y llywodraeth yw'r Cyngor Cefn Gwlad, sy'n gweithio i gael Cymru well lle mae pawb yn trysori'r amgylchedd naturiol ac yn ei warchod. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar www.ccw.gov.uk

*
countryside council for wales
*