cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

newyddion
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
archif

Y Byd i ymddangos ar 03:03:08 …tanysgrifiadau ar werth nawr!

Mewn lansiad wedi ei drefnu gan Cambrensis yn yr Element Bar, Bae Caerdydd, cyhoeddwyd mai Dydd Llun, y 3ydd o Fawrth 2008 fydd dyddiad lansio Y Byd.

Dywedodd Golygydd y papur, Aled Price:

Ychwanegodd, 'Bydd Y Byd yn llawn newyddion — lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd yn bapur newydd cyflawn — yn cynnwys chwaraeon, adloniant, busnes a gwleidyddiaeth. Mi fydd gwefan eang bywiog yn elfen ganolog o'r fenter wrth i Y Byd dorri tir newydd gyda gwefan newyddion fyw. Hwn fydd yr unig wefan Cymraeg fydd yn rhoi gwasanaeth newyddion cyflawn yn y Gymraeg.'

Bydd gwefan Y Byd yn cynnig gwasanaethau arbennig i danysgrifwyr. Fe fydd tanysgrifwyr yn derbyn manteision eraill fel gostyngiad sylweddol ar bris y papur — a chynigion arbennig ar y cyd â phartneriaid masnachol y papur.

Yn ôl Aled Price:

'Mae'r papur yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr ac fe fydd yr ymgyrch gwerthu tanysgrifiadau yn cychwyn heddiw. Mae'r nod o gael cyfran uchel o danysgrifwyr yn seiliedig ar lwyddiant nifer o bapurau newydd eraill sydd wedi dilyn yr un llwybr. Byddwn yn anelu at ddenu rhagor o ddarllenwyr, ar wahân i danysgrifwyr, nes ymlaen. Mae'r papur wedi denu cefnogaeth sylweddol yn barod - hyd yn oed cyn iddi ymddangos. Nawr mae cyfle i'n darllenwyr fod yn rhan o'r llwyddiant a thanysgrifio o flaen llaw i'r papur.'

Fe fydd pencadlys y Byd yn cael ei sefydlu ym Machynlleth. Yno bydd canolfan y tîm o 24 o staff llawn amser yn cynhyrchu'r papur a'r wefan yn ddyddiol. Yn ogystal â staff ym Machynlleth fe fydd Y Byd yn cyflogi newyddiadurwyr ym mhob rhan o Gymru.

Dywedodd Ned Thomas, Cadeirydd Dyddiol Cyf:

'Mae heddiw yn garreg filltir mewn proses sy'n parhau. Rydym yn adeiladu cymuned o gwmpas y papur a'r wefan — mae gennym 340 o fuddsoddwyr preifat sydd yn sicrhau fod perchnogaeth y papur yn aros yng Nghymru; 1700 o aelodau yn ein Clwb Cefnogwyr, a nawr rydym yn lansio ymgyrch danysgrifio. Mae Y Byd wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan bobol ym mhob rhan o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys cefnogwyr di-Gymraeg.

Rwy'n ddiolchgar hefyd am gefnogaeth grantiau busnes gan Lywodraeth y Cynulliad a Chyngor Sir Powys. Yn yr wythnosau i ddod fe fyddwn yn chwilio am ragor o gefnogaeth gan y gymuned fusnes yng Nghymru. Mae hybu'r economi Gymreig ymhlith blaenoriaethau'r papur.

Byddwn hefyd yn parhau i siarad â'r pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn eu hannog i adeiladu ar yr addewidion a wnaed ganddynt yn ystod yr etholiadau diweddar — i helpu sefydlu'r papur dyddiol ar seiliau cadarn yn unol â disgwyliadau Cyngor Ewrop.'

DIWEDD

Mae Aled Price, (Golygydd), Ned Thomas (Cadeirydd) a Rebecca Williams (Rheolwr Cyffredinol) ar gael ar gyfer cyfweliadau darlledu a phrint. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen neu Lleucu Cooke yn Cambrensis ar 029 2025 7075/01286 685 254 neu drwy e-bost lleucu@cambrensis.uk.com

Mae Y Byd, y papur dyddiol cenedlaethol, yn lansio ar ddydd Llun, y 3ydd o Fawrth 2008.

  • Y Byd yw'r papur dyddiol Cymraeg cyntaf erioed.
  • Bydd Y Byd yn mynd i'r wasg 5 diwrnod yr wythnos ac yn cael ei ddosbarthu i bob rhan o Gymru.
  • Mae Y Byd yn bapur annibynnol, wedi ei dargedu at ddiddordebau darllenwyr Cymraeg.
  • Mae tanysgrifiadau i Y Byd — a chynnig arbennig i danysgrifwyr — ar werth o heddiw ymlaen
  • Pris Y Byd fydd 70c dydd Llun i ddydd Iau, a £1.20 ar ddydd Gwener yn cynnwys atodiad penwythnos
  • Bydd tanysgrifwyr yn derbyn talebau i'w cyfnewid am y papur mewn siopau papurau newydd trwy Gymru gyfan
  • Bydd modd tanysgrifio i'r papur ar-lein yn unig am bris gostyngol
  • Bydd tanysgrifwyr yn derbyn gostyngiad o hyd at 25% oddi ar bris y papur
  • Gweler y daflen tanysgrifio amgaeedig, neu ewch i www.ybyd.com am ragor o fanylion

Nodyn ychwanegol

Bydd y cwmnïau canlynol, yn ogystal â swyddfa'r Byd, yn gwerthu tanysgrifiadau dros y misoedd nesaf:

*
y byd