cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

amdanom ni
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
arwel ellis owen

Sefydlwyd Cambrensis ym 1990 gan Arwel Ellis Owen yn dilyn gyrfa o 30 mlynedd gyda'r BBC.

Wedi cyfnodau yng Nghaerdydd a Llundain fel un o olygyddion rhaglenni materion cyfoes a newyddion megis Week in Week Out, Panorama a Newsnight fe apwyntiwyd Arwel yn Bennaeth Rhaglenni yn BBC Gogledd Iwerddon ym 1985.

Fel Prif Weithredwr Cambrensis, mae wedi cadeirio BAFTA Cymru, Derwen, Teledu TRI, Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru a Cable Cymru. Ar hyn o bryd, mae ei amser yn cael ei rannu rhwng gwneud rhaglenni teledu a radio, ysgrifennu llyfr ar hanes Sinn Fein a hyfforddi yn y cyfryngau ledled y byd.

Mae gan Arwel restr faith o gleientiaid yng Nghymru a gweddill y DU, a thrwy ei waith gyda Sefydliad Thomson mae wedi hyfforddi newyddiadurwyr yn India, Sawdi-arabia, Moldova, Bangladesh a Norwy'r flwyddyn hon yn unig!

*
arwel ellis owen
adnabod arwel