cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

amdanom ni
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
arwel ellis owen

adnabod arwel…

Beth yw eich hoff adeg yn y dydd?
Rwy'n mwynhau'r hanner awr gyntaf yn y bore wrth i mi gynllunio'r diwrnod sydd o fy mlaen.

Beth yw eich hoff dymor?
Y gaeaf — yn dywyll a llawn dirgel, poeth ac oer — unrhyw esgus am dân go iawn yn llosgi mawn.

Beth yw eich hoff arogl?
Rwyf wastad wedi hoffi arogl petrol — ers i mi fod yn llanc ifanc yn tynnu galwyni ohono o bwmp petrol Llansannan.

Beth yw eich hoff fwyd?
Platiaid o 'chops' cig oen Cymru a photel dda o Chateau Musar o'r Lebanon a dwi'n ddyn hapus.

Oes gennych chi anifeiliaid anwes?
Mae gen i gi gwyllt ac mae sôn y byddaf yn etifeddu bwji cyn hir.

Beth yw'r diddordebau y tu allan i'r gwaith?
Rwy'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth organ, golffio a chanu.

Beth yw eich hoff liw?
Coch yw fy hoff liw, rhosod yw fy mlodau.

Beth ydych chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Rwy'n mynd i India eto cyn hir, felly rwy'n darllen rhyw lyfr teithio ar gyfer hynny, bywgraffiad David Trimble, bywgraffiad Pennan Davies a phob rhan teithio o'r papurau penwythnosol ers y chwe mis diwethaf.

Sut fyddech yn disgrifio eich hun?
Rwy'n rhy hael o'r hanner, ond mae'n gas gen i pryd mae pobl yn hwyr.

Beth yw eich hoff ddywediad?
'Ymlaen hyd ddiwedd y daith.'

*
in the newsroom at al jazeera
*
taking a break from training in saudi