cv
Graddiodd Gwen mewn Rheolaeth Busnes Ewropeaidd ym 1998, wedi treulio blwyddyn o'i chwrs yng Nghaerdydd yn gweithio i gwmni cyfieithu ym Mharis.
Cyn ymuno â Cambrensis yn Ionawr 2001, gweithiodd fel Ymgynghorydd Ymchwil Farchnad i MSI Marketing Research for Industry yng Nghaer. Wedi dwy flynedd o ymchwilio ac ysgrifennu adroddiadau ar bob math o ddiwydiannau, dechreuodd Gwen adran gwerthiant a marchnata i MSI, ble'r rhoddodd sustemau yn eu lle er mwyn codi proffil yr adroddiadau ymysg cwsmeriaid busnes i fusnes gan wella'r gwerthiant a'r marchnata'n sylweddol.
Ers 2005, mae Gwen wedi bod yn gyfrifol am redeg swyddfa newydd Cambrensis yn Galeri, Caernarfon. Ymysg ei chyfrifoldebau o ddydd i ddydd mae rhedeg ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a threfnu digwyddiadau ledled Cymru.
Yn ddiweddar, fe dderbyniwyd Gwen fel aelod llawn o'r Chartered Institute of Public Relations wedi iddi lwyddo i basio'r cwrs Diploma dwy flynedd.
|