adnabod gwen…
Disgrifiwch eich hun?
Mewn tri gair: Mynegiannol, Brwdfrydig, Ymroddedig.
Beth yw'r amser gorau o'r dydd?
Rhowch i mi fore dydd Sul gyda dim byd i wneud, dim 'Penmaenmawr', tŷ glan a chynllunio i fynd i hwylio gyda Dad neu unrhyw bryd gyda thangnefedd, sprinkler dŵr a llyfr da.
Beth yw eich hoff bethau?
Dwi'n hoffi bod o gwmpas bobl greadigol, gwrando ar gerddoriaeth dda am 3 o'r gloch y bore, dawnsio bale a chael syrpreis neis.
Ble yw eich hoff le yn y byd?
Je t'aime Paris. Mae' n mynd â fy ngwynt pob tro ac yn gwneud i mi fod eisiau bod yn filiwnydd.
Beth yw eich hoff arogl?
Oglau awyr iach Eryri, hot dogs o'r ffair, Coco Chanel, Powdwr Babi, Deep Heat — maent i gyd yn nostalgia hollol i mi.
Beth yw eich hoff fwyd?
Ravioli ffres, cyri o Café Naz, platiaid o gaws a phwdin o Westy St. David's yn y bae. Allwn ni ffitio nhw i gyd i mewn i'r swper ola' plîs?
Hoff dymor?
Y Gaeaf. Mae gan y dyddiau mwy o strwythur rhywsut — golau dydd i waith a'r nosweithiau i ffilmiau, siopa Dolig a thân gwyllt.
I beth ydych chi'n ei wrando ar hyn o bryd?
Rwy'n gwrando ar y radio drwy'r amser. Methu cysgu heb Radio 4, methu coginio brechdanau bacwn heb Jonathan Ross a diolch am Radio Cymru ar yr A470.
Beth sydd wrth ochr eich gwely?
Mae gen i bob rhifyn o Vogue ers 1992. Maen nhw'n cymryd lot o le ac yn drwm iawn, ond dydw i just ddim yn medru taflu'r ffotograffiaeth wych i ffwrdd.
Beth ydych chi'n ei gasáu?
Difaru.
Beth ym eich hoff motto?
'Whatever you can do, or dream you can, begin it. Boldness has genius, power and magic in it.'
— Goethe
|