 |
cv
Wedi graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 2001, arhosodd Gwenan yno i gwblhau cwrs olradd mewn Entrepreneuriaeth cyn mynd i deithio'r byd am flwyddyn. Yn dilyn y daith, treuliodd flwyddyn a hanner yn byw ac yn gweithio yn yr Unol Daliaethau yn Efrog Newydd a Cincinnati, Ohio.
Wedi dychwelyd adref Nadolig 2004, i'w bro genedigol ym Mhen Llŷn, dechreuodd weithio fel Swyddog Maes Dwyfor i Fenter Iaith Gwynedd cyn newid yn 2006 i fod yn Swyddog Sector Breifat Gwynedd i'r Fenter.
Ers Hydref 2006, mae Gwenan yn gweithio ar ystod eang o brosiectau cysylltiadau cyhoeddus o swyddfa Cambrensis yng Nghaernarfon, gyda'i chleientiaid yn cynnwys S4C, Cadw, Cyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Cyngor Gwynedd.
|
 |