cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

amdanom ni
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
Gwenan Mai Davies

adnabod gwenan…

Beth yw eich hoff ddiod?
Does 'na ddim byd gwell na phanad o de yn y bora, p'nawn, nos neu unrhyw bryd a deud y gwir! Ond os ydy hi wedi bod yn noson fawr yna mae'n rhaid i mi gael gwydred mawr o c-vit! Ond os rhowch chi wydred o Fargarita mefus wedi rhewi i mi, yna chi fydd yn ffrind gorau newydd i!

Beth yw eich hoff fwyd?
Sôs coch hefo cyw iâr
Sôs coch hefo sglodion
Sôs coch hefo broccoli
Dwi'n meddwl ych bod chi'n dechra' dallt!

Beth yw eich hoff arogl?
Dwi wrth fy modd hefo arogl coconyt. Shampŵ coconyt, sebon coconyt, olew coconyt! Ond does 'na ddim arogl gwell na fwy cartrefol nag arogl bara newydd ei grasu yn enwedig yn y bore.

Hoff dymor a pham?
Dwi wrth fy modd hefo nosweithiau hir yr haf. Cael bar-ba-ciw pob nos ac eistedd am oriau yn yr ardd neu ar y traeth. Mae'r haf yn golygu treulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau, gwyliau tramor a gŵyl bob yn ail penwythnos.

Eich hoff le yn y byd?
Dwi hapusa' wrth gerdded ar hyd y traeth ym Mhorthdinllaen ym Mhen Llŷn a hynny mewn unrhyw dywydd. Ond os na fyddai yno, dwi wrth fy modd yn eistedd ar y glaswellt yn Bryant Park gyda Starbucks mawr yn fy llaw yn gwylio hen ffilm ar y sgrin fawr yn yr awyr agored, ond a deud y gwir mi fyddai cael bod yn unrhyw le yn Manhattan yn champion gin i!

5 o'ch hoff ffilmiau?
I can't choose just 5.

Hoff amser o'r dydd?
5 o'r gloch y p'nawn. Dwi newydd orffen diwrnod prysur o waith ac mae'r noson gyfan o mlaen. Ac os ydy hi'n bump o'r gloch ar nos Wener yna mi fydd hynny'n well fyth.

I be ydych chi'n ei wrando ar hyn o bryd?
Mae nghasgliad cerddorol i yn un weddol od ac yn llawn o bethau gwahanol, o The Eagles i Beyonce ac o Belle and Sebastian i Usher, mae'n dibynnu ar sut dempar sydd aranai! Ond dwi'n hoffi unrhyw beth sydd yn neud i mi neidio allan o'n sedd a dawnsio!

Beth ydych chi'n ei ddarllen?
Mae gen i bentwr o lyfrau chick-lit ar ben pentwr o gylchgronnau, ac ar ben pob dim mae beibl pob merch, 'A Girls Guide to Everything'.

Oes gennych chi anifeiliaid anwes?
Dwi'n casau cael anifeiliaid yn y tŷ, ond ers i mi symud i fyw gyda fy ffrind Emma dwi wedi gorfod mabwysiadu ei chath dew hi, Phyllis Phillips. Ond ma' Ffati a fi yn dod ymlaen yn champion mond bod hi byth yn mynd mewn i'n llofft i, dod yn rhy agos atai a mewian yn rhy uchel!

Disgrifiwch eich hun.
Dwi'n hoffi meddwl mod i'n ddoniol, hyderus a threfnus, ond dwi'n ama' fod eraill yn fy ngweld i yn od, swynllyd ac yn bosi!

Eich hoff flodau?
Tulips. Syml ond effeithiol!

Eich motto.
Just do it!


*
gwenan mai davies
*
Sôs coch
tulips
*