cv
Graddiodd Lleucu o Brifysgol Lerpwl mewn Almaeneg a Astudiaethau Sbaenaidd. Treuliodd chwe mis o'i chwrs yn astudio yn Düsseldorf a chwe mis ym Marcelona.
Mae Lleucu wedi bod yn gweithio yn Cambrensis ers 2002. Mae ganddi brofiad helaeth o gysylltiadau cyhoeddus, ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg, cysylltu â'r wasg, trefnu gweithdai, digwyddiadau a chynhadleddau, llythyru a gwaith bas data.
Mae Lleucu yn aelod o'r Chartered Institute of Public Relations wedi iddi basio'r CIPR Advanced Certificate.
|