adnabod lleucu…
Disgrifiwch eich hun?
Rwy'n siaradus, yn ddibynadwy, yn 'feisty', yn ffwdanus ac yn anturiaethus.
Beth yw eich hoff arogl?
Rwy'n hoffi oglau gwair newydd ei dorri oherwydd mae'n meddwl fod yr haf ar y ffordd.
Beth yw'r amser gorau yn y dydd?
Nos Wener, gyda'r penwythnos o'ch blaen.
Hoff dymor?
Yr Hydref — fy mhen—blwydd, ffasiwn newydd y gaeaf a'r dail lliwgar o gwmpas Parc y Rhath.
Beth yw eich hoff fwyd?
Cyri poeth, cinio dydd Sul Mam, tiramisu gyda gwydriaid o win coch ac mae'n rhaid cael popcorn gyda halen yn y sinema.
Beth yw eich hoff ddiod?
Dwi'n hoffi peint o lager mewn tafarn glud ac yn methu aros am G&T ar nos Wener.
Beth ydych chi'n ei ddarllen?
Dwi'n hoffi edrych drwy Grazia, Elle a Marie Claire ac yn cadw i fyny 'da'r newyddion gyda BBC Ar—lein a'r Western Mail.
Cas bethau?
Clociau sy'n tician, mynd a'r biniau du allan, tiwna a phobl negyddol.
Beth yw eich hoff liw?
Mae gwyrddlas y môr ar draeth Miami mor heddychlon ac yn edrych yn hyfryd yn erbyn yr awyr las.
Beth ydych chi'n ei hoffi fwyaf?
Rwyf ar fy hapusaf yn teithio o gwmpas ac yn bwyta mas. Rhaid bod eistedd ar draeth Ipanema Beach, Rio de Janeiro yn gwylio pobl hardd y byd yn pasio yn un o'r ffyrdd gorau o dreulio pnawn.
|