 |
adnabod Osian…
Beth yw eich hoff ddiod?
Ers fy nghinio cynta' gyda Cambrensis yn Brazz, Canolfan Mileniwm Cymru, rwy' wedi cwympo mewn cariad 'da gwin coch Beaujolais Fleurie.
Y lle gorau yn y byd?
Fy hoff wlad yw'r Eidal, dwi'n caru'r bwyd. Dwi hyd yn oed wedi dechrau gwersi Eidalaidd!
Beth yw eich hoff liw?
Glas yr awyr.
Eich hoff dymor?
Yr haf — rwy ar fy ngorau — ac mae'r pen—blwydd ym mis Gorffennaf!
I be ydych chi'n ei wrando ar hyn o bryd?
Arcade Fire, Bloc Party, Bright Eyes, CSS, Dirty Pretty Things, Fields, Guillemots, Joanna Newsom, Jeremy Warmsley, Kate Nash, Mr Hudson & the Library, Mumm-ra, Patrick Wolf, Shout Out Louds a Stars.
Dwi'n gwrando ar Vibe FM a Radio 1 — wrth fy modd gyda Colin a Edith ac os dwi adre 'The Wave' yn Abertawe.
Beth fyddai swydd eich breuddwydion?
Byddwn yn hoffi bod yn ysbïwr i'r SAS ond dwi'n ofn gormod o bethau, wel, dwi'n ofn cwn, tramps a Noson Calan Gaeaf!
Eich motto?
'The future belongs to those who believe in the beauty of their dreams.'
— Eleanor Roosevelt
|
 |