cv
Cadeirydd y cwmni sy'n raddedig mewn Ffrangeg ac Economeg o brifysgolion Sussex a Toulouse, mae Rhodri yn ymarferydd profiadol iawn ym maes trefnu digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a chynhyrchu rhaglenni teledu yng Nghymru.
Ers iddo ymuno â Cambrensis ym 1994 mae Rhodri wedi gweithio fel ymgynghorydd trefnu digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata i nifer o sefydliadau blaenllaw.
Ar hyn o bryd, mae'n cyfarwyddo cyfrifon cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau ar gyfer y canlynol:
•
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
• Cadw
• S4C
• Cyfle
• Cyngor Llyfrau Cymru
• Cyngor Gofal Cymru
• Cyngor Celfyddydau Cymru
• Comisiwn Dylunio Cymru
|