cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

amdanom ni
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
rhodri ellis owen
*

adnabod Rhodri…

Beth yw eich hoff ddiod?
Rwy'n eithaf hoff o Drambuie a Gin — dyna gadwodd Y Fam Frenhines yn mynd am 101 mlynedd felly mae'n rhaid bod rhywbeth yn hynny!

Sut fyddwch chi'n disgrifio'ch hyn?
Rwy'n eithaf 'easy going', yn siarad yn blaen, yn ffraeth ac yn uchelgeisiol ond eto'n rhyfedd o ofalus ac yn berchennog lwcus ar fwthyn bocs siocled yn y fro. 

Ydych chi erioed wedi ymddangos ar y teledu?
Rwy'n gyfrannydd cyson i Wedi 3 ar S4C ac yn fodlon siarad am bron i unrhyw beth os ydi'r galwad yn dod!

Beth yw eich hoff fwyd?
Rwyf wrth fy modd gyda Crème Brulée. Does dim gwell arogl na siop Patisserie ym Mharis. Rwyf wrth fy modd gyda Pharis neu unrhyw le yn Ffrainc os ddaw i hynny.

Oes gennych chi anifeiliaid anwes?
Mae gennyf Parson's Terrier hollol wirion bost o'r enw Milly. Mae mynd a'r ci am dro yn y bore, gan edrych allan tua'r môr, yn dda i'r enaid.

Beth yw eich hoff ffilmiau?
Rwyf wrth fy modd gyda Dame Maggie Smith a Terry Thomas. Byddwn i'n medru gwylio La Cage aux Folles (y fersiwn wreiddiol yn Ffrangeg o 1978 yn unig) a The English Patient eto ac eto. Heb anghofio Porc Pei wrth gwrs — rhaid rhoi hwnna i mewn!

I beth ydych chi'n ei wrando ar hyn o bryd?
Rwyf newydd ail—ddarganfod Yma Sumac — aderyn cân yr Andes… os gewch chi gyfle chwiliwch am ei hen stwff hi…hollol mad…dwli 'da Tiga ar hyn o bryd ac o hyd yn disgyn am y clasur disco Ffrangeg Voyage Voyage gan Desireless. Ffefryn mawr arall yw Bonnie & Clyde gan Serge Gainsbourg a Brigitte Bardot. Rwy'n tueddu i switsio rhwng Terry a Vibe 101 yn y car ar y ffordd i'r gwaith ac yn ceisio mynd i gysgu yn chwerthin i mi fy hun ar Chris Needs.

Beth ydych chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Mae darllen yn hala fi i gysgu, ond rwy'n edrych ar storïau rhyfedd ac annaearol yn y Fortean Times ac yn edrych ar glossies dynion ar gyfer fy slot ar Wedi 3.  Mae'r Western Mail ac ananova.com yn rhoi'r newyddion diweddaraf i mi.

Beth ydw i'n ei gasáu fwyaf?
Pobl sy'n cwyno ac adrannau gofal cwsmer mewn cwmnïau mawr — ofnadw!

Beth fyddai swydd eich breuddwydion?
Fy mreuddwyd fyddai bod yn arweinydd alldaith gudd sŵolegol drwy'r Congo yn chwilio am ddinosoriaid byw.  Dwi wedi gweld Nessie fy hun felly dwi'n meddwl fod gen i'r agwedd iawn o leiaf!

*
thatched welsh cottage
*
psycho milly, parson's terrier