cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*

hyfforddiant rheoli

Rydym yn cydnabod bod hyfforddiant yn gallu bod yn ddrud o ran arian ac o ran amser y cwmni neu sefydliad. Mae pob math o gwmnïau allanol sy'n cynnig rhaglenni anhyblyg dros ben o ran cynnwys, lleoliad a hyd y cwrs. Yn y sefyllfa yma, mae staff yn derbyn hyfforddiant cyffredinol dros ben, ac nid y math o hyfforddiant sy'n gofyn am gydweithio agos rhwng yr hyfforddwr er mwyn mynd i'r afael â problemau penodol y cwmni a'i staff.

Y canlyniad? Gwastraff amser o ran y sefydliad a theimlad o rhwystredigaeth trwy ddiffyg gwella perfformiad ymysg staff.

Fel cwmni mae gennym brofiad helaeth o redeg cyrsiau arweinyddiaeth ar gyfer unigolion a thimau. Mae ein hyfforddwyr i gyd yn unigolion profiadol ym maes arweinyddiaeth eu hunain, gyda'u cefndiroedd proffesiynol yn sail cadarn i'w dealltwriaeth o faes rheoli.

Os hoffech drafod ein cyrsiau hyfforddi ymhellach, cysylltwch â Gwen Siôn ein cydlynydd hyfforddiant ar:
Ffôn: 01286 685 254
gwen@cambrensis.uk.com

*
hyfforddiant yn y cyfryngau
*
hyfforddiant yn y cyfryngau