cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*

hyfforddiant yn y cyfryngau

'Biti na fyswn i wedi cofio dweud hynny… nes i ddim sylweddoli fod dau funud mor fyr…daria!'

'Doedd yr holl wybodaeth oeddwn i angen ddim gennyf i… pan ddechreuodd yr holwr fynd amdani, mi ddrysais yn ofnadwy.'

'Doeddwn i ddim yn medru stopio fy nhroed chwith rhag symud, ac roedd fy nwylo i ym mhobman. Roeddwn i'n poeni gymaint am hynny, anghofiais bob dim.'

'Aeth fy ngheg yn sych, fe gochais, roeddwn i wedi cynhyrfu yn lân… wnes i ddim dweud beth oeddwn i wedi bwriadu ei ddweud… doeddwn i ddim yn medru dod o hyd i'r geiriau.'

Bydd Arwel Ellis Owen yn sicrhau bod sylwadau o'r fath ddim yn cael eu clywed eto yn eich cwmni wrth iddo eich tywys drwy'r pwyntiau allweddol wrth gyfathrebu drwy'r cyfryngau.

Gyda gwledd o brofiad yn gyntaf yn y BBC fel gohebydd, cynhyrchydd a chomisiynydd ac wedyn fel cynhyrchydd annibynnol, awdur a sylwebydd mae Arwel Ellis Owen yn deallt sut y mae'r cyfryngau yn gweithio a sut allwch chi wneud i'r cyfryngau weithio i'ch cwmni chi.

Hwyrach fod hyd yn oed y syniad o fod o flaen y camera neu'n gwneud cyfweliad radio yn eich dychryn, neu hwyrach eich bod yn gyfarwydd â gwneud cyfweliadau ond yn teimlo yr hoffech weithio ar rai agweddau o'ch perfformiad.

Mae Arwel Ellis Owen yn hyfforddwr proffesiynol sydd wedi gweithio gyda rhai o gwmnïau mwya'r wlad yn cynnwys Marks and Spencer, Zurich Financial Services Group a Morgan Stanley. Mae Arwel hefyd wedi teithio'n helaeth yn hyfforddi newyddiadurwyr dros y byd drwy ei waith gyda'r Thomson Foundation.

 

*
hyfforddiant yn y cyfryngau