cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*

hyfforddiant rheoli a hyfforddiant yn y cyfryngau

Mae cyrsiau hyfforddi Cambrensis yn rhoi'r pwyslais ar dri pheth:
1. Y Bobl
2. Gwerthoedd y Sefydliad
3. Diwylliant y Sefydliad

Mae pob ymgais i ddatblygu sefydliad yn un dynamig, ac yn un sy'n barod i wynebu heriau'r byd gyda hyder a gweledigaeth glir, yn gorfod cychwyn gyda'i bobl.

Mae hyfforddiant cyfathrebu Cambrensis yn galluogi unigolion i uno eu gwerthoedd a'u credoau gyda gwerthoedd a chredoau'r sefydliad. Drwy wneud hyn, mae'n bosib creu gwerthoedd corfforaethol sy'n ddealladwy ac sy'n mynd i annog ffyddlondeb ymysg staff.

Nid ydym yn credu bod rhaid tynnu staff allan o'u gweithle er mwyn eu hyfforddi. Mae ysgogi staff am newid agweddau, a rhoi hyder iddynt fynegi eu hunain mewn ffordd adeiladol a phroffesiynol.

Mae cyrsiau cyfathrebu Cambrensis yn canolbwyntio ar hunanymwybyddiaeth, gan helpu'r cyfranogwyr i ddarganfod yr adnoddau oddi mewn iddynt sydd â'r gallu i'w helpu fel unigolion ac fel arweinwyr.

*
hyfforddiant yn y cyfryngau
*