|
Ffurfiwyd adain cysylltiadau cyhoeddus Cambrensis ym 1995 gan Rhodri Ellis Owen, a'i gleient cyntaf oedd Marchnad Dan Do Clydach. Pob bore dydd Sul byddai Rhodri'n gyrru yno gyda jyglwyr, taflwyr tân a grwpiau pop lleol yn y bŵt er mwyn cael sylw i'r farchnad yn y dref!
Ond mae pethau wedi newid cryn dipyn ers hynny. Erbyn hyn, mae Cambrensis Cyf. yn cael ei ystyried fel un o'r asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf profiadol a dibynadwy yng Nghymru, drwy weithio gyda nifer o sefydliadau mwyaf blaenllaw Cymru gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cadw, Cyngor Llyfrau Cymru, Comisiwn Dylunio Cymru, Cyngor Gofal Cymru, S4C a llawer mwy.
Gyda lleoliadau ar ddwy o lannau dŵr mwyaf llewyrchus Cymru, Bae Caerdydd a Doc Victoria, Caernarfon, mae gan Rhodri Ellis Owen a'i dîm angerdd at drosglwyddo negeseuon ac yn gwarantu eu hymroddiad 100%.
Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.
|