 |
cyngor celfyddydau cymru (ccc)
Fe ddaeth Cyngor Celfyddydau Cymru at Cambrensis i roi cyngor marchnata ac i lansio cysyniad brandio newydd ar gyfer y Cynllun Casglu.
Mae'r cynllun arloesol yn darparu benthyciadau di—log er mwyn prynu gwaith celf yng Nghymru. Ar y pryd, roedd y cynllun wedi rhedeg ers 22 mlynedd, ac wedi dechrau colli tir i fenthycwyr eraill. Roedd delwedd y cynllun hefyd wedi colli ei effeithiolrwydd ymysg y gynulleidfa darged.
Edrychodd Cambrensis ar y deunydd marchnata i gyd a dyfeisio pecyn marchnata newydd ar gyfer y cynllun.
Mewn partneriaeth â'r dylunwyr graffeg Staziker Jones a 6721 ac yn dilyn ymchwil gydag orielau, pobl broffesiynol ym maes celf, a chwsmeriaid fyddai'n cysidro prynu celf drwy'r cynllun, fe benderfynon ni ail—ddylunio'r llyfrynnau'n gyfan gwbl, gan ddiweddaru'r testun a chynnwys penawdau beiddgar. Fe benderfynon ni hefyd i ddylunio bocsys newydd i ddal y llyfrynnau, gwaith graffeg ar gyfer y ffenestri a chardiau busnes i bob oriel er mwyn atgyfnerthu'r neges â phob cyfle.
Cafodd y ddelwedd newydd ei lansio'n llwyddiannus ym mis Mehefin yn Oriel Washington, Penarth.
Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.
|
 |