cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
cysylltiadau cyhoeddus

cadw

Wedi bod yn gyfrifol am gysylltiadau cyhoeddus Cadw am dair blynedd, fe enillodd Cambrensis y cytundeb am yr eildro yn Rhagfyr 2003 yn erbyn rhai o asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus mwyaf Cymru.
 
Mae gweithio ar gyfrif Cadw yn golygu lefel uchel o broffesiynoldeb ac ymrwymiad at gael y cydbwysedd rhwng cynhyrchu storïau newyddion da, ymateb yn briodol i'r wasg a bod yn 'antena' allanol i Cadw er mwyn rhybuddio'r sefydliad llywodraethol o unrhyw faterion a all greu pryder iddynt.
 
Mae Cambrensis wedi gwella cyflymder a pharodrwydd Cadw i ddelio gyda'r wasg a'r cyfryngau, ac wedi bod yn arbennig o lwyddiannus mewn adeiladu gwell perthynas rhwng Cadw a'r wasg a chyfryngau Cymraeg drwy'n cysylltiadau cadarn o fewn y sector, ein hymrwymiad i ddarparu datganiadau dwyieithog, galluogrwydd ein staff i ymateb i gwestiynau a chyfweliadau yn y Gymraeg a drwy annog presenoldeb Cadw mewn digwyddiadau Cymraeg megis yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.

*
michael aspel