cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
cysylltiadau cyhoeddus

cyngor cefn gwlad cymru

Mae Cambrensis wedi adeiladu perthynas glos gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru ers 1997, gan ddarparu gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus, trefnu digwyddiadau, marchnata a hyfforddiant yn y cyfryngau yn cynnwys cyfrifoldeb dros reoli eu stondinau yn y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol.
 
Ym 2001, fe apwyntiwyd Cambrensis i reoli prosiect tair blynedd yn hyrwyddo, marchnata a darparu gwybodaeth i gynllun Mynediad Agored Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
 
Ymysg ein cyfrifoldebau roedd cynllunio, ymchwilio, monitro a chynnig cyngor ar gysylltiadau cyhoeddus lleol a chenedlaethol. Bu Cambrensis yn gyfrifol am ymgyrch lwyddiannus ar draws y cyfryngau arbenigol, cenedlaethol a rhanbarthol, a chefnogwyd hyn gan dros 200 digwyddiad 'drws ar agor' mewn neuaddau tref a phentref ledled Cymru ble roedd cyfle i'r cyhoedd alw i mewn i ddysgu mwy am oblygiadau'r cynllun Mynediad Agored a'r Hawliau Tramwy newydd.
 
Drwy drin y mater mewn modd sensitif, gyda chysylltiad personol, bu i'r Cyngor Cefn Gwlad osgoi'r argyfwng a fyddai wedi ei wynebau petai ddim wedi gwneud y diwydiannau ffermio a thwristiaeth a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r newidiadau pan ddaeth y ddeddfwriaeth i rym ym Mai 2005.

Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.

*
ccw - open access pr campaign